Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yng Ngolau'r Fflam ASTUDIAETHAU HANESYDDOL JOURNAL OF THE HISTORICAL SOCIETY OF THE CHURCH IN WALES, Volume I. Golygwyd gan J. Conway Davies. Cyhoedd wyd gan 'Historical Society of the Church in Wales', 1947. Cyfrol hardd yw hon, a dylem ei chroesawu'n frawdol. Cyfnodolyn dwyieithog ydyw, ond un traethawd Cymraeg yn unig sydd yn y rhif- yn hwn, un allan o bedwar-ar-ddeg; a cham- gymeriad yw rhoi'r tudalen-teitl a wybodaeth am y Gymdeithas yn Saesneg yn unig. Gall awgrymu fod y Gymdeithas yn fwy Seisnigaidd nag y mae. Ceir ysgrif ddiddorol gan yr Athro C. H. Williams ar Gerallt Gymro, a -da y pwysleisir ei bwysigrwydd fel hanesydd yr "ymylon Celt- aidd"; ond ni welaf paham y disgrifir Gwallter Map mor ddibetrus fel Sais. Yr un mor deilwng a defnyddiol yw traethawd y Dr. J. W. James ar John Davies, Mallwyd. Rhagorir ar y rhain o ran donioldeb gan Esgob Abertawe ac Aber- honddu wrth drin Bogo de Clare ac o ran pwysigrwydd gan Mr. Moelwyn Merchant wrth drafod y meddyliwr gwleidyddol Richard Wat- son, Esgob LJandaf. Ceir ymgais glodwiw gan Mr. George Lerry i werthfawrogi'r Archesgob A. G. Edwards; dyry'r awdur ei fendith ar y mudiad presennol i Gymreigio'r Eglwys yng Nghymru ac ar y weledigaeth am aduno'r eg- lwysi, ond er mwyn y pethau hyn dylai, i'm tyb i, gofio nad yw ceiso cadw cyfundrefn eg- lwysig yn iswasanaethgar i'r wladwriaeth yn gyfystyr ag "amddiffyn eglwys" — canys dyna ei ddisgrifiad ar. waith A. G. Edwards cyn y Datgysylltiad. Canmolir yn uchel ei ddylan- wad ar Goleg Llanymddyfri ond ni ddywedir dim am anghymreictod ei bolisi fel prifathro a'i anffyddlondeb i bwrpas gwreiddiol yr ys- gol. Qwerthfawr yw cyfraniad Mr. Glanmor Williams ar yr Esgob Richard Davies; dengys nad Piwritan mohono ond gwna ormod o'i i geidwadaeth, canys yr oedd yn amhartiol cyn 1557. Diddordeb llai cyffredinol sydd i draethod- aù'r Dr. B. G. Charles a Major Francis Jones, ond y mae astudiaeth yr Athro A. Hamilton Thompson ar yr esgobaethau Cymreig yn yr Oesoedd Canol yn bwysig. Cyfeddyf mai es- gobaethau cynulleidfaol ('highly localized sees") oedd esgobaethau Cymru ar y dechrau, ond dywaid fod yr elfennau annibynnol hyn wedi colli eu nerth erbyn amser Hywel Dda a bod y syniad diocesaidd ("the wider diocesan conception") eisoes yn drech na hwy. Hoffwn weld yr Athro'n ceisio profi hyn. Perchid Tŷ Ddewi, Llandaf a Bangor yn fawr, ond yn sfcr nid oedd dim cyfundrefn blwyfol a dioces- aidd cyn i'r Normaniaid ymwthio i'r wlad. Dylid cofio hyn ymhob ymdrech i aduno eg- lwysi'r Cymry. Ceir ysgrif wych ar farddoniaeth Henry Vaughan gan Mr. S. L. Bethell, ysgrif ofalus ac awgrymog dros ben. Neilltuol o dda yw'r darn ar y gwahaniaethau rhwng Vaughan a Traherne, ond sicr gennyf fod Vaughan yn debycach i Traherne nag i Dylan Thomas a Vernon Watkins y cymherir ef â hwy mewn man arall yn y traethawd. Ai priodol yw rhestru Herbert gyda Donne fel meddyliwr barddonol mwy trefnus ac organig na Vaughan a Crashaw? Y Canon Gwynfryn Richards yw awdur yr ysgrif Gymraeg yn y gyfrol, ysgrif ar y Plyg- ain. Y mae gwir ysgolheictod yn hon. Gres- yna'r awdur weld y Plygain yn cael ei ddaros- twng i'r un lefel â'r "cyflaith a'r wydd a'r cwbl", chwedl E. Huws, Ysgweier yn "Nos Nadolig" Glasynys. Ond pa waeth, os dyrch- efir y cyflaith a'r ŵydd a'r cwbl i uchelderau'r Plygain? Gorau po fwyaf y gyfathrach rhwng bara'r llawr a bara'r nef. Ceir yn y gyfrol hefyd adolygiadau Saesneg ar Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae' A. W. Wade-Evans ac ar 'Edward of Carnar- von' Hilda Johnstone. D.A.