Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BARDDONIAETH BLODAU'R GWYNT a CHERDDI ERAILL, gan A. Gwynn Jones. Gwasg Gee. j/ Bardd sy'n byw yn un o'r ardaloedd hyf- rytaf yng Nghymru yw Mr. A. Gwynn Jones, ac y mae or herwydd yn ŵr i genfigennu wrtho; ond fe ddengys y gyfrol hon o'i gerddi mai byd angharedig i farddoniaeth yw hwn heddiw, ple bynnag y bydd prydydd yn byw, ac i ble bynnag y bydd yn troi am ei ysbryd- iaeth. Does dim angen amau'r prydydd hwn pan ddywed yn ei ragair ei fod wedi codi'n destun i'w ganeuon "swyn a chyfaredd natur"; natur ym Mro Hiraethog yn fwyaf arbennig, bid sicr. Dyma'r byd y ceisiodd ei ail-greu ar gân, a phwy all wadu nad yw'n werth traethu'n helaeth amdano? Ond gwir y dywed y bardd ymhellach mai "peth arall oedd mynegi'r wel- edigaeth yn y fath fodd nes peri boddhad esthetig." Gwyleidd-dra Mr. Gwynn Jones sy'n cyfrif am y gyffes, ac am y rhybudd fod chwyn yn cyd-dyfu â blodau. Mae'n arwydd o wendid ynddo er hynny. Mae'n golygu nad yw'n sicr o'i alwedigaeth, nad yw'n llefaru gydag awdur- dod — diffyg sylfaenol mewn prydydd, a diffyg y mae Mr. Jones, mi debygaf, yn lled ymwy- bodol ohono. Dyna yw bardd wedi'r cwbl dyn â'r gallu i FYNEGI profiadau barddonol. Gellwch chi a minnau o bosibl, fwynhau'r profiad; y bardd sy'n ei wir feddiannu trwy roi iddo ffurf a mynegiant. Rwy'n ofni bod Mr. Jones wedi afradu'i ddoniau wrth anwad- alu rhwng amryw ddeniadau a dyletswyddau tybiedig. Y mae mynegi "cyfaredd natur" yn hawlio cwbl ymgysegriad. A phe bai Mr. Jones wedi neilltuo'i ddawn i'r pwrpas hwn yn ttnig, buasai wedi llwyddo i gyrraedd cad- arnach amgyff red o'i weledigaeth, a buasai wedi cynnig inni deilyngach mynegiant ohoni nag a gawn mewn llinellau fel Mae hedd ym mro Hiraethog A gwŷr a merched braf, A llygaid syth, godidog neu yn yr addefiad dieneiniad fod ffyrdd bach tawel Nantglyn Yn cerdded trwy fy ngwaed. Yn anffodus, fe ddaeth i gredu hefyd y dyl- ai, fel bardd yn y byd sydd ohoni, dalu sylw i 'swn y boen a'r adwyth' a geir mewn 'cyfnod dirywiol gwareiddiad pwdr a gwancus.' Hawdd cydymdeimlo â'i fwriadau da. Ond busasai'n well iddo fod wedi gwrthod gwrando ar y llais hudol yma, oblegid-fe'i llithiwyd ganddo i le- oedd digon amheus, fel y dengys y gerdd dru- enus i "Leningrad." Gellid esgusodi y math yma o ddiffyg chwaeth yn 1944 efallai-er fy mod yn amau'n fawr a fyddai unrhyw un a brofodd ryfel yn barod i wneud hynny—ond yn bendifaddau, ni ellir ei gymeradwyo yn 1948. Gwir na all neb osgói'r 'adwyth' heddiw. Ni all unrhyw fardd mewn unrhyw oes ei hos- gói o ran hynny. Ond rhaid i bob bardd ym- ateb i'r her yn ddiamwys, ac fe ymddengys i mi fod ymateb cerddi fel "Leningrad" (1944) a "Gwareiddiad" yn annidwyll. Rwy'n teimlo fod y cerddi hyn, ynghyd ag "Wcrân" efallai, a'r gyntaf o'r ddwy gân a luniwyd yn ystod Rhyfel Gartref Sbaen, y tu allan i briod fyd y prydydd. Mae'r boen a ddisgrifir ynddynt yn rhy bell o Hiraethog, nid yn gymaint mewn amser a lle, ond mewn ysbryd a modd, i'r bardd allu'n hargyhoeddi ni ei fod wedi am- gyffred y boen honno fel rhan anorfod o'i brof- iad ei hun. Sentiment yw'r ysgogiad, nid tos- turi mawrfrydig. A phan ddaw Mr. Jones yn nes adref a chanu am y boen sy'n eî wir gyn- hyrfu fel bardd, y 'boen' a geir mewn natur, estyn a wna inni ddrych twyllodrus y 'pathetic fallacy'. I mi, mae rhywbeth afiach mewn cerdd fel "Trasiedi" neu "Y Cwningen", lle y priodolir i greaduriaid gwylltion brofiadau a theimladau dynol. Mater o chwaeth bersonol yw hynny o bos- ibl. Rhaid cydnabod nad ar drueni gwledydd pell yn unig y bu'r bardd yn clustfeinio, ac nid ar ddioddefaint anifeiliaid gwylltion chwaith. Y mae wedi canu ar adegau i 'boen' ei fro ei hun, y boen oesol, ddigyfnewid sy'n llechu ym meddwl ac yn ysbryd pob cenhedl- aeth ddynol yn ei thro, a'r cysgodion arbennig sy'n bygwth heddiw dangnefedd llawer bro heblaw Hiraethog. Un o orchwylion bardd yw diriaethu haniaethau; rhaid iddo gyfieithu pyd- redd a dirywiad gwareiddiad, os dyna sy'n ei gyffroí, i dermau ei gymdeithas ei hun. Ymgais