Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

at hyn a gawn, mi dybiaf, yn "Y Pasiant," "Ein Tadau Gynt," a "Moel Drefriw. Mae'n drueni felly fod y darnau hyn wedi eu difetha gan. ddyfaliadau naïf, ffug-athronyddol sy'n aml yn ymylu, a hynny'n anfwriadol, ar fod yn ddigrif, megis ym mhennill olaf "Ein Tadau Gynt." Yn y cerddi llai uchelgeisiol, mewn ambell delyneg fach fel "Gosber" neu rai o'r disgrif- iadau o flbdau, y cawn Mr. Gwynn Jones ar ei orau. Prydydd ydyw yn olyniaeth y bardd gwlad; olyniaeth dra theilwng, y mae gan Gymru Ie i ddiolch amdani ac i ymfalchïo yn- ddi. Gallasai Mr. Gwynn Jones fod yn fwy balch o'i dras, ac ymgroesi rhag shibolethau cyfoes fel 'boddhad esthetig'. Pe bai wedi ef- Bangor. BYWGRAFFYDDOL ROBERT OWEN O'R DRE NEWYDD, gan R. O. Roberts. Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1948. Tud. 110. 2/6. Treuliwyd saith deg saith o flynyddoedd allan o oes faith Robert Owen (1771-1858) y tu faes i'w wlad enedigol, Cymru; ac yn an- ffodus y mae'r ysgariad hwn rhyngddo a'i gyd- wladwyr Cymraeg wedi para i raddau helaeth wedi i'w oes derfynu. Hyd yma ni chafwyd ond ychydig o lyfrau yn Gymraeg ar ei fywyd a'i syniadau (ac yr oedd y mwyaf adnabyddus ohonynt, llyfr a gyhoeddwyd gan y Parch. Richards Roberts yn 1907, yn draethawd budd- ugol mewn cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn union fel y gyfrol a adolygir yma). Y mae "Robert Owen, y Dre Newydd" felly yn lIanw bwlch yn ein llenyddiaeth fywgraff- yddol Gymraeg, ac, o fewn rhyw gant 0 dudal- ennau, fe'i lleinw'n dda. Llwyddodd Mr. Rob- erts i grynhoi mewn dull darllenadwy iawn lawer b'r deunydd ar y pwnc a geir yn y byw- graffiadau Saesneg, megis eiddo Podmore a Cole. Gwnaeth ymgais hefyd i gysylltu gwaith a syniadau Owen ag eiddo'i ragflaenwyr (tud. 23) a hefyd â chefndir economaidd ei gyfnod (tud. 11-13), ac i olrhain eu dylanwad ar gen- edlaethau diweddarach (e.e. td. 35 a 51). Yn y chwe phennod gyntaf, fe ddyry amlinelliad o fywyd Owen a'i arbrofion cymdeithasol, ac yn y pedair pennod olaf ymdrinir a'i syniadau a'i berthynas â Chymru. Yma ac acw, fe glywir, hwyrach, y tinc nawddogol hwnnw a gysylltir yn ami â dar- elychu llai ar batrymau mor groes i'w gilydd â W. J. Gruffydd ac Eva Gore Booth, Thomas Hardy ac Eifion Wyn, Hedd Wyn a Walt Whit- man, buasai wedi gwneud gwell cyfiawnder ag ef ei hun-ac â Hiraethog. Bu'r patrymau yn ormes arno, a methodd â chreu ffurf-fynegiant briodol iddo'i hun. Dyna sy'n cyfrif am an- addasrwydd afreidiol ei ansoddeiriau, am ei chwaeth ddiffygiol, am ei ymlyniad wrth ffurf- iau a mèddylddrychau treuliedig. Fe'm tem- tir i broffwydo, pe bai Mr. Gwynn Jones yn bwrw'i lyfrau trwy'r ffenestr, a'r set radio ar eu hôl efallai, ac yna'n ymdynghedu i ddysgu oddi wrth natur yn unig, y cawsem ganddo yn y man fynegiant teilwng o'r bardd sy'n ym- guddio ynddo. ALUN LLYWELYN WILLIAMS. ìithwyr prifysgolion, ac y mae hynny'n lled an- addas wrth ymdrin â gŵr o faintioli Owen. Eithr, ar y cyfan, fe ddyry'r llyfr hwn ddarlun o ddyn na ellir gwadu ei fawredd, ac amheuaf a all neb ei ddarllen heb synnu am ei fywiog- rwydd eithriadol, ei wreiddioldeb a'i allu a'i ofal am les pobl eraill ac am ei amynedd wrth ddilyn ei ddelfrydau yn wyneb y gwrthwyneb- iad a'r difenwi dibaid, a rhagrithiol yn aml, a gâi gan arweinwyr yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Peth trawiadol arall ynglŷn ag Owen ydyw mor ifanc ydoedd pan ddatblygodd ei ddiddoreb cymdeithasol. Pan nad oedd ond deuddeg neu dair ar ddeg oed, yr oedd yn ysgrifennu at, 'y Prif Weinidog, William Pitt, ar bwnc o bolisi cyhoeddus (i argymell cadw'r Saboth yn well- ffaith a ddylai ennill serch y Cymry Gymraeg ato!) Ac awgrymir gan bynciau ei anerch- iadau wrth Gymdeithas Lenyddol ac Athron- yddol Manceinion fod ei athroniaeth gymdeith- asol eisoes wedi ymffurfio'n fras pan oedd yn ŵr ifanc yn nechrau ei ugeiniau, a'i fod eisoes yn sylweddoli'n well na neb o'i gyfoeswyr sut yr oedd cymdeithas yn tueddu yn yr Oes y Peiriant newydd hon (c. 1800). Er mai gormodiaith yn ddiau yw dywedyd fel y gwna Mr. Roberts "mai bychan yw hawl Owen i'w alw'n Gymro," yr oedd yn golled i Owen ei hunan ac i Gymru mewn llawer ffordd iddo golli ei gysylltiad yn ifanc â'i wlad ened- igol a'i thraddodiadau. Hyn sydd i gyfrif, y