Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFIEITHIAD Y DILLAD SY'N GWNEUD Y DYN, gan Gottfried Keller. Y Trosiad Cymraeg gan T. P. Williams. Llyfrau'r Dryw. Tt. 43. 1/6. Adroddiad dychanol am dref fach ddych- mygol yn y Swistir yw'r stori hon ar yr wyneb, ond ar yr un pryd stori yw hi a sgrifennwyd gan un sydd yn adnabod yn drwyadl wendid- au'r ddynol ryw ac yn dal i ymserchi mewn dynion coegfalch a gwan sydd mor hawdd eu twyllo. Mae'r cyfieithiad yn lhvyddiannus a gwelir arddull ffug-Homeraidd yr awdur yn dda mewn cymhariaeth fel yr un sydd yn dilyn: Llyncodd y gwin yn ddrachtiadau grymus a phlannodd glampiau o ddarnau o fara i'w geg. Yn fyr i chwi 'roedd yn cario mor awchus ag y gwelsoch dyddynwyr yn gwneud ar dywydd taranau pan ruthrir y gwair ar bicffyrch o'r weirglodd i'r ysgub- or. Ond pam na chawn ni ond argraffiad pur. edig o stori sydd yn ddigon diniwed i blant yr Almaen gael ei darllen? A yw Mr. Williams yn meddwl bod y darllenydd Cymraeg yn rhy llednais i allu edrych ar arwr yn sefyll yn y tŷ-bach ac yn ocheneidio am ei anffawd? Neu pa reswm sydd ganddo i adael allan bron hanner tudalen o stori sydd yn dangos yn well na dim y gwrthdaro rhwng ffug urddas a ffeith- Abertawe. DRAMAU BLODEUWEDD, Saunders Lewis, Gwasg Gee, 7/6. O'r diwedd dyma ddrama na all hyd yn oed gwmni amateur mo'i llwyr ddifetha! Drama sydd ac a fydd yn fwy nag unrhyw berflorm- iad unigol ohoni, oherwydd bydd pob per- íformiad, pa mor ddelfrydol bynnag y bo, yn sicr o golli trwy fethu â phwysleisio POB un o'r agweddau amlochrog a geir ynddi. Dyna dynged drama fawr. Y mae hon yn ddrama sy'n galw am actio o'r radd flaenaf, ac am gynhyrchu crefftus ac awengar. Y mae'r cyn- nwys yn gyfoethog o bethau awgrymog a phraff. Drama y dyUii pob dyn ei myfyrio'n ofalus cyn ei gwylio. Mewn gwirionedd, a chofio stad y theatr yng Nghymru heddiw, dyma ddrama nad ydym yn ei hacddu. iau bywyd? Yn wir, mae hi yn werth sylwi nad yw Keller ond un mewn rhes o bobI enwog (fel Swift, D. H. Lawrence a Joyce) sydd yn dangos diddordeb yn y ty-bach. A pharchusrwydd o'r un fath, yn debyg iawn, a wnaeth i'r cyfieitfiydd adael allan y pennill cyntaf o'r gân Bwyleg sydd yn sôn am "fochyn o ferch yn mynd trwy'r llaid hyd at ei fferau." Byddai merch fel yma, yn debyg iawn, yn ormod i nerfau hen-ferchetaidd y darllenydd rhamantus. Fel canlyniad mae'r geiriau a ddywedodd Netta gyda theimlad: "O, 'does dim curo ar y pethau cenedlaethol yma!" yn colli yn llwyr eu min dychanol. Dywed T. P. Williams yn y Rhagymadrodd diddorol, "Mae'n nodweddiadol o Keller mai'r merched sydd bob amser a'u traed danynt, a'r gwyr sydd a'u pennau yn y cymylau." Dar- Ilenais esboniad psychoanalytig o'r ffaith hon gan Hermann Boeschenstein. Yr oedd Gott- fried Keller yn ôl Boeschenstein yn dioddef o'r hyn a elwir yn gymhlethdod mamol ("strong mother fixation") ac yr oedd hyn yn achosi iddo yn ei storîau i ddelfrydu merched. Gobeithio yn fawr y cawn ni ragor o storiau Keller wedi eu cyfieithu gan yr un awdur. KATE BOSSE-GRIFFITHS. Mae'n debyg mai'r peth cyntaf y dylid sylwi arno yw'r defnydd a wnaeth Mr. Lewis o stori'r Mabinogi. Ei gamp fel dramodydd yw'r modd y cydiodd yn yr hen chwedl a'i throi i'w ddi- benion ef ei hun. Heblaw hynny, lleinw'r stori ag ystyron newydd, âg arwyddocâd nad yw yn y gwreiddiol o gwbl, ond i'r graddau y mae'r myth yn fynegiant o frwydrau dynol- iaeth ym mhob oes. Gwnaeth Mr. Lewis gyff- elyb waith ar "Flodeuwedd" ag a wnaeth Eliot yn ei 'The Family Reunion.' Mae'n wir nad yw'n mentro llawn cymaint ag Eliot, gan nad yw wedi dewis cefndir cyfocs i'w ddrama. Gwyddom am arswyd Mr. Lewis rhag sgrif- ennu drama fodern, a medrwn ei ddeall, ond