Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwynt yr ymosodiad yw ceisio dangos Emrys fel gwr na welai ddim o'i le ac a'i hcdmygai, o bosibl, fel patrwm. Ond darllener y paragraff cyntaf yn ysgrif Emrys ap Iwan (Erthyglau I, t. 123) a gwelir mor ddibwynt yw deuparth yr hyn a ddywed Dr. Peate: "Hwyrach y dy- wed rhai mai peth pur anghyson yw i mi, sy'n gennad hedd, dreulio amscr i draethu am dair brwydr y lladdwyd ac y clwyfwyd ynddynt agos i gan mil o wyr Ni cheisiaf i ymgyf- iawnhau, ond addef a wnaf yn hytrach fod pob dyn yn euog o ryw anghysonderau neu'i gilydd ac un o'm anghysonderau i yw hyn: fod yn gas gennyf ryfel yn fy nghalon, yn enwedig ryfel y cryf yn erbyn y gwan; ac eto fod yn ddiddorol gennyf yn anad dim ddarllen hanes brwydrau rhwng byddinoedd disgybledig Y mae'r esboniad ar hanes a chymcriad Nap- olcon a dderbyniodd Emrys ap Iwan yn un poblogaidd mewn cylchoedd rhyddfrydol ar y Cyfandir. Felly, y mae eisiau astudiaeth of- alus cyn ei osod o'r neilltu. Gan na welodd Dr. Peate yn dda grynhoi ei dystiolaeth yn of- alus, y mae'r ymgais i gydio syniadau Emrys ap Iwan wrth rai Mr. A. D. H. Jarman am syberwyd cenedlaethol yn methu. Gwell, ef- allai, yn wyneb gwendid y dystiolaeth, a os- odir o'n blaen, pe buasai Dr. Peate heb gyn- nwys yr ysgrif hon yn y gyfrol. Y mae Dr. Peate yn sôn llawer am Anghyd- ffurfiaeth, ac Annibyniaeth yn arbennig yn y llyfr hwn. Y mae ganddo bethau pur heillt- ion i'w dweud am yr Ysgol Sul (tt. 80 ac ym- laen), y bregeth (t. 53), y weinidogaeth (tt. Aberystwyth. EFRYDIAU CATHOLIG. Cyfrol III., 1948. Gwasg Sulien. Pris 2/6. Prif gynnwys y cylchgrawn hwn yw erthygl yr Archesgob McGrath ar Uniongrededd y Farddoniaeth Gymraeg." Ni ddyry ond chwarter ei ofod i'w destun priod, a chais yn hytrach amddiffyn gwyryfdod parhaol Mair Forwyn mewn ateb i adolygiad y Parch. E. Tegla Davies ar erthygl arall o'i eiddo. Eddyf Dr. McGrath mai ffaith yr Atgyfod- iad-ac nid y Geni gwyrthiol-a ddefnyddiodd St. Pawl i brofi Duwdod Crist, ac mai "gwirion fyddai ceisio profi'r Duwdod trwy'r enedigaeth forwynol." Maentumia. "y gallasai Mab Duw ei eni o wraig briod a chanddi blant." Dywed 51-52,. 55), a bywyd yr eglwysi yn gyffredinol. Nid arno ef y mac'r bai fod deuparth ci feirn- iadacth yn gywir. Ni allwn ond bod yn ddi- olchgar iddo am eu rhoi ar bapur. Ond y mac arnaf ofn bod beirniadaeth Dr. Peate a'i gym- heiriaid eisocs wedi bod yn fwy llwyddiannus nag unrhyw wcledigaeth adciladol. Y mac rhywbeth yn nodwcddiadol yn y stori am y blaenor (ar t. 59) a lyncai osodiadau'r diw- eddar Athro Miall Edwards yn ddihalcn. Ofer i Dr. Peate (a'i debyg) dreulio'u hamser yn pastynnu Ymneilltuaeth, ac yna beio arni am ildio tan y gurfa. Beth sydd gan yr awdur i'w gynnig fel mcddyginiaeth? Y mae'n an- odd gwybod. Nid yw mor barod i fcirniadu ci safbwynt ei hun ag ydyw i fcirniadu safbwynt- iau craill. Ei wendid yw, nid ei fod yn beirn- iadu gormod, ond nad yw'n bcirniadu digon. Mewn gair, y mae rhyddfrydigrwydd cisocs yn calcdu'n ddogma, a gwac'r neb a'i herio. Hiw- manistiaeth yw un o roddion y Dadcni Dysg i'n gwarcidiad ni, ond y casgliad y daw dyn iddo wedi darllen llyfr Dr. Peate yw, na wna hiwmanistiacth sylfaen i fywyd, er iddi fod yn ychwanegiad nid annheilwng at ci bryd- fcrthwch. Y mae cam-brint ar t. 35, llinell 17. Yn 1534, riid 1434 y bu helynt yr Ail-fcdyddwyr ym Munster (t. 70). Bcth am y gair olaf yn y pennill ar t. 129? Nid oes raid ychwanegu bod Gwasg Aberyst- wyth wedi cynhyrchu'r gwaith â'i gofal arferol. Y mae'r llyfr hwn yn bwysig ,ac fe ddylid rhoi sylw y mae'n ei haeddu iddi. R. TUDUR JONES. hefyd y dewiswyd Joseff gan Ragluniaeth "i gelu dirgelwch tarddiad y Meseia," yr hyn sy'n lled-awgrymu y gellir dirnad ac amgyff- red gwir Berson y Meseia ar wahan i'r Geni rhyfedd. A diddorol iawn yw ei grybwylliad fod Awstin Sant yn cyfrif Mair "yn fwy bcn- digcdig, drwy dderbyn ffydd yng Nghrist, nag yr oedd hi wrth ymddŵyn cnawd Crist." Oni all pob Cristion ymgyrraedd at y cyflwr "mwy bcndigedig" hwn? Trwy Grist y cynigir bywyd tragwyddol i bawb, gan gynnwys Mair. Dengys ci Ras y gellir ojrhain arfer yr ym- adrodd "Mab Mair" gan y beirdd yn ôl i'r'