Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYDAWEG A HANDBOOK OF MODERN BRETON, gan D. W. F. Hardie, Ph.D., Gwasg Prifysgol Cymru 1948. 10/6. Beth amser cyn y rhyfel cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru lawlyfr da ar Lydaweg Canol (Llawlyfr Llydaweg Canol, gan yr Athro H. Lewis). Yn awr rhoes i ni lyfr yn Saesneg ar Lydaweg Diweddar: A Handbook of Modern Breton gan y Dr. D. W .F. Hardie. Mae iddo 240 tudalen, a chyflwynwyd ef i goffadwriaeth Le Gonidec a Prosper Proux. (Yn Llydaweg y mae'r cyflwyniad). Ar wa- hân i'r adran sy'n delio â gramadeg, mae'r UyÍT yn cynnwys crynodeb o gefndir hanes- yddol y Llydaweg, bywgraffiad o'r ddau awdur y cyflwynir y llyfr iddynt, stori ('Benedisite'), a geirfa o'r termau mwyaf cyffredin. Seiliwyd y ramadeg ychydig ar ffurf Gramadeg Llyd- aweg bro-Dreger (ardal Treguier), gan Le Clerc — ac mae hynny i'w ddweud drosto. Ond ysyw- aeth, nid oes gan yr awdur ond gwybodaeth denau iawn o'r Llydaweg, ac os caiff Cymro neu Wyddel—canys ar eu cyfer hwy y mae'r llyfr bennaf-ryw fudd o ddarllen yr adran hanesyddol neu'r nodiadau sy'n dilyn y stori, ychydig iawn a gaiff o astudio'r ramadeg. Nid oes ond ychydig o dudalennau heb fod yn- ddynt reolau gramadeg aneglur, ac weithiau anghywir i'r eithaí, yn ogystal â chamesbon- iadau dybryd. Wrele rai o'r gwallau y sylwyd arnynt. Tud. 34:—Ynglŷn a'r "eclipsis" ("eclipsis nasalis" y Wyddeleg, megis: ar n dorus) dywed yr awdur nad affeithia ond ar y gair 'dor', ac efallai 'douar'. Yma rhaid gwahan- iacthu rhwng dau gyfnod yr hyn a elwir yn Llydaẃeg Diwcddar: dechrau Llydaweg Diw- cddar, a Llydaweg heddiw. Ar ddechrau Llydaweg Diweddar, yr oedd yr 'eclipsis' yn llawer mwy cyffredin nag ydyw heddiw, ac affeithiai ar 'daou' a 'diou' (Cymraeg: 'dau' a 'dwy') yn ogystal â geiriau eraill. Heddiw, yn y rhan fwyaf o faes yr iaith Lydaweg, ni ellir siarad am 'eclipsis,' hyd yn oed gyda'r gair 'dor'. Canys troes 'dor' gan amlaf yn 'or', ac nid yw neb bellach yn ymwybodol o'r treigliad D/N (dor an nor an or, rhywbeth tebyg i'r Saesneg 'nadder' yn troi yn 'adder' trwy etymoleg anghywir a than ddylanwad llythyren ddcintiol y fannod 'an': 'a nadder an adder). Mac üchcl Wencdeg ('haut van- netais'—Llydaweg bro-Wened) yn eithriad, trwy ddefnyddio 'eclipsis', hyd yn oed gyda 'deu' a 'diu' (dau) a (dwy). Tud. 35:The adj. with initial D resists mutation after a noun, m. or f.: al logodenn dall." Mae'r treigliad hwn yn bod er hynny ym mro-Leon, lle dywedir 'logodenn zall.' Yn yr un bennod eto, tud. 40, darllenwn: "The infixed pronoun 'am' does not cause the spirant mutation of a following initial P: d'am penn." Er y dywedir: 'd'am penn', dywedir yn ogystal: 'd'am venn' (fenn). Tud. 42: Nid Llydaweg mo'r frawddeg 'an alc houez eus an ti'. Efelychiad o'r Ffrangeg ydyw, ac anaml y'i gwelir. Ymhellach ym- laen, ar dud. 44, cred y Dr. Hardie mai aneg- lur ydyw'r geiriau "eur c'horn kambr" ac ym- adroddion tebyg. Eithr nid yw'r ystyr yn dyw- yll o gwbl. Ystyr "eur c'horn kambr" ydyw 'cornel ystafell" (a corner of a room). Saif hyn mewn gwrth-gyferbyniad ag "eur c'horn eus ar gambr", sy'n golygu "cornel o'r ystaf. ell" (a corner of the room). Tud. 46: Ar dud. 35 eisoes fe gyfieithwyd 'priedou' fel "husbands". Yma eto, rhoddir 'pried' yn gyfystyr â "husband", yn cyfatcb i'r bcnywaidd 'gwreg.' Yn union fel y Gym- raeg 'priod,' mae'r Llydaweg 'pried' yn gol- ygu "gwraig briod" yn ogystal 1 â "gŵr priod". Y gair a gyfetyb i'r Saesneg "husband'' yv; 'ozac'h' (lluosog, 'ezec'h'). A bod yn gywir- ach, cyfetyb 'ozac'h' yn union â'r Sacsneg Canol "husebonde", a olygai, nid yn unig "husband", eithr "penteulu". Mae'r un ys- tyr yn perthyn o hyd i 'ozac'h'. (Dyma ar- wydd diddorol o natur batriarchaidd y teulu Llydewig) Ác am fod i 'ozac'h' y ddau ystyr yma, nid yw mwyach yn cyfleu yn gywir iawn ystyr y gair Saesneg diweddar "husband", sydd wedi colli ei hen ystyr: "meistr". Ar wahân i hyn, prin y dywed gwraig: 'Va ozac'h', eithr 'va gwaz,' 'va den' (ty ngŵr). Tnd. 47: — "Du = dark one". Nid felly. Gwnai Llydaweg Canol enw allan o 'du'. (cf. yr