Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

aetholdeb a chelfyddyd. Mae'n amlwg bod yr awdur, er gwaethaf ei alluoedd anghyffredin, wedi'i ddrysu gan gymhlethdod meddyliol yr oes. Denwyd ef gan Gomwnyddiaeth ac an- archistiacth a chenedlaetholdeb Sgotaidd a Christnogaeth ddyneiddiol, ond ei unig ddiw- eddglo, a barnu wrth y nofel hon, yw bod yn rhaid chwilio ymhellach am y gwirionedd. Os yw'r arwr ar y diwedd yn ddarlun o'r awdur, wele ei atcb i'r llais sydd yn galw arno i was- anaethu'r Alban a dangos ei ochr ym mrwyd- rau'r oes: "Until we know who we are, there's little use in finding out what we are"; "It STORIAU STRAEON J.E., gan J. E. Williams, Llyfrau'r Dryw, 1947. Tt. 55. Pris 1/6 Casgliad o unarddeg o straeon a geir yn y llyfr hwn. Yn y nodyn byr sydd ar y clawr, fe'u cyflwynir hwy i'r darllenydd fel "Storiau cyffrou? sy'n gwneud i ddyn ddal ei anadl ar adegau." Ni ddaeth y math yma o ysgrifennu yn gyffredin iawn yng Nghymru, ac eithrio gyda rhyw ychydig rai fel Francis Thomas. Felly troais at y casgliad hwn a phatrwm rhai o straeon arswyd yr iaith Saesneg yn fwyaf ar- bennig yn fy meddwl; enghreifftiau fel "The Turn of the Screw" gan Henry James, neu rai o straeon Edgar Allan Poe. Gwyddom o'r cychwyn mai ffurf ffuantus ar lenyddiaeth yw'r stori arswyd. Dywed yr Ath- ro T. H. Parry-Williams yn ei ysgrif "Llen- ydda," mai "hoced anesgusodol yw ffug-len- ydda." Eithriad i'r rheol hon yw'r stori ar- swyd, a champ y storîwr yw gwneud i ddefn- ydd ff uantus ymddangos yn ddiffuant a difrifol am y tro. Sylweddolodd J. E. Williams na all elfennau fel "y gŵr drwg," "y ladi wen," "y dyn hysbys," a'r cyffelyb, ymddangos yn ddiffuant mewn oes wyddonol fel hon. Ceir straeon felly wedi eu casglu yn "Chwedlau Cefn Gwlad," gan Sarnicol, a argyhoeddai bobl y ganrif ddiwethaf. Ond heddiw rhaid gosod y straeon yng nghanol cefndir materol bywyd pob dydd, a thrwy ryw ystryw greu ar- swyd o beth felly. Hyn a wnaeth J. E. Will- iams yn ei straeon. Gweodd hwy o gylch bodau mor naturiol ag Ifan Cadwalad ac Arthur Pengelli; o gylch hen gymeriad gwledig fel Defi Jones a phwll o ddŵr a enwyd ar ei ôl. seems if you are not prepared to connive at the destruction of Scotland, there's no room in it"; "Neither nationalism nor religion nor any affiliation so far means anything to me because they are not wide enough." OInaf fod rhyw anghyfrifoldeb wrth wraidd arwa- hander Mr. Hendry. Gobeithiaf na threulia ormod o'i amser prin i "chwilio" — yn enwedig gan fod y gwirionedd y mae'n chwiíio amdano i'w gael dan garreg pob drws yn Glasgow. Hwyrach y cawn nofel arall, a David yn dych- welyd o America i'r Alban. D.A. Seiliwyd "Dial y Beddau" ar ffaith hanesydd- ol fel chwilio ymhlith pyramidiau'r Aifft, ac nid yw'r stori "Fforddolion" yn rhy anhygoel chwaith, oherwydd ceir toreth o bobl heddiw a gred y gellir cael cyfathrach rhwng y byw a'r marw. Yn "Clos y Fynachlog" y mae'r mynaich yn eu "hugan wen laes a chwcwll gwyn," yn tueddu i aros yn eu stad ffuantus, ac yn gwrthod ein hargyhoeddi. Perthynant hwy, efallai, yn rhy agos i fodau annynol y ganrif ddiwethaf. Yn anffodus hefyd cyll y stori "Y Praw" ei blas i'r neb a ddarllenodd "GWr Pen y Bryn" gan Tegla Davies, am y ceir stori mor debyg yno. Mae digon o amrywiaeth defnydd yn y stor- ïau hyn; nid yw'r awdur wedi taro ar un wythien a all geulo'r gwaed, ac yna tynnu'n ddiderfyn ohoni. Try profiadau meddyg a ffermwr yn ddefnydd yn ei law; mae breudd- wydio, a bodolion y byd tu draw yma; ac y mae rhai o'r straeon wedi eu seilio ar hanes rhyfel- oedd ac ar ymchwiliadau yn yr Aifft. Peth da yw cael digon o amrywiaeth cefndir mewn cas- gliad o straeon fel hyn, rhag iddynt fynd yn undonog wrth eu darllen un ar ðl y llall. Yna, beth am dechneg y straeon yma? Yn ddiau rhaid wrth lenor cyfrwys a doeth odiaeth i lunio stori arswyd dda. Rhaid gwybod y modd i symud yn gyflym-yn ddigon cyflym fel y gellir, wedi unwaith fferu'r gwaed, ei gadw rhag dadlaith tan ddiwedd y stori. Gol- yga hyn ddewis a dethol manwl iawn, a di- bynnu yn llawer helaethach ar awgrymu nac