Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU GOLYGYDDOL SIGRID UNDSET Ym mis Mawrth eleni collodd Cymru T. Gwynn Jones, un o'i beirdd mwyaf. Ym mis Mehefin collodd Norwy Sigrid Undset, un o'i nofelwyr mwyaf. Gellir dweud yn ddi- ogel fod y ddau ymhlith mawrion llên y byd. Mae rhai pethau yng ngyrfa Sigrid Undset sydd o ddiddordeb neilltuol i Gymru. (Cyn eu nodi, effyniaf faddeuant Mr. John Greaves am bwyso'n llwyr ar un neu ddau o'r cyfieithiadau Saesneg o'i gweithiau). Enillodd ei nofelau hanesyddol fri mawr; a dyma faes sydd i raddau helaeth heb ei droedio yng Nghymru. Dywedir bod nofelau hanesyddol Sigrid Undset yn arddangos meistrolaeth ar gefndir y cyfnodau y sonnir amdanynt. Ond gofala i beidio â llwytho'r nofelau a thrymder ei gwybodaeth hynaf- iaethol. Erys brwydr foesol a mewnol ei chymeriadau yn brif fater. Mae diddordeb mewn problemau moesol a chrefyddol yn amlwg yn rhai o'r gweithiau hyn. Ac yn 1925 daeth ei throedigaeth i Eglwys Rufain, digwyddiad a gafodd ddylan- wad mawr ar ei chelfyddyd. Nid bob amser y cafodd digwyddiad o'r fath effeithiau llesol ar gelfyddyd. Byddai llawer, er enghraiHt, yn barod i gytuno bod troedigaeth Tolstoi (nid i Eglwys Rufain, mae'n wir) wedi amharu ar rai agweddau o'i gelfyddyd. Cwyna rhai am weithiau diweddar Sigrid Undset, fod ei diddordebau crefyddol wedi ym- galedu mewn ffurf ddogmatig. Ar y llaw arall, gwerthfawr yw ei barn aeddfed am lenorion a saint. Mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn Saesneg o dan y teitl, 'Men, Women and Places' (Cassell, 1939) ym- drinia'n llym â neges D. H. Lawrence. Dywaid beth fel hyn: "Nid yw'r cwlt ffalig y ceisiodd ei sefydlu yn dwyn tangnefedd a chynhesrwydd mewn gwirionedd yn fwy nag y'u dwg i bersonau tragwyddol aflonydd ei nofelau." Cred hi fod Lawrence wedi rham- anteiddio nerth gwrywaidd oherwydd cymeriad gwydn ac ofer ei dad, a hwnnw'n ar- ddangos ysgythredd dengar yn erbyn cefndir y teulu Ymneilltuol a fynychai'r capel deirgwaith ar y Sul. Yn yr un gyfrol pwysleisia werthfawredd y person unigol, a chondemnia gyfundrefnau sy'n peirianeiddio bywyd. Mae ganddi astudiaeth o Marjery Kempe o Lynn, awdur Catholig o'r bymthegfed ganrif. Ac yn 'Stryd y Glep' gwelir elfennau crefyddol yng ngwelediad Kate Roberts — ond mewn ffordd dipyn yn wahanol. J.G.G.