Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tom Ellis Gan D. GWENALLT JONES DYLEM fel cenedl ddiolch yn ddidwyll i Mr. T. I. EHis am ysgrifennu Cof- iant Thomas E. Ellis. Bwriadai D. R. Daniel ac O. M. Edwards lunio Cofiant iddo, a gofynnwyd i ryw "ddau lenor arall" ymgymryd â'r gwaith, yn ôl y Rhagair i'r Gyfrol gyntaf, ond gan nas gwnaethant, 'r oedd yn ddyletswydd ar Mr. T. I. Ellis i'w ysgrifennu; yn ddyl- ctswydd arno ac yn llafur cariad. Ond ar ôl diolch iddo yn ddidwyll, rhaid cyf- addef mai ef a ddylai fod yr olaf i'w ysg- rifennu, am y rheswm syml ei fod yn fab i'w dad. Y cofiant tebycaf yn Gymraeg i Gofiant Tom Ellis yw Cofiant y Dr. Thomas Charles Edwards i'w dad, 'Bywyd a Llythyrau y Parch. Lewis Ed- wards.' Casglodd y ddau gofiannydd fel ei gilydd y ffeithiau am eu tad, gan ddyf- ynnu o erthyglau, llythyrau a dyddiad- ur, ond pan ddisgwylir iddynt roi barn ar eu tad, rhoddant farn rhywun arall. Ni allai'r naill na'r llall ohonynt gamu y tu allan i'w waed ei hun i edrych ar ei dad yn wrthrychol. Nid ydynt yn medru de- hongli'r ffeithiau. Gwn mai Mr. T. I. Ellis a fvddai'r cvntaf i roddi i eraill y rhyddid i ddehongli'r ffeithiau a gasglodd yn ei Gofiant. Rhvddfrvdwvr a Chenedlaetholwyr oedd D. Lloyd George, O. M. Edwards a Tom Ellis, ond y duedd yn nechrau'r ganrif hon oedd gorbwysleisio eu Rhydd- frydiaeth hwv ac anwvbvddu eu cenedl- aetholdeb. Yn ddiweddar yng Nghofiant bychan Mr. E. Morgan Humphreys i D. Lloyd George ac yn Nghofiant Tom Ellis fe aeth y pendil i'r ethaf arall. Prif wen- did Cofiant Mr. T. I. Ellis yw gorbwys- leiso Cymreictod a chenedlaetholdeb ei dad. Y mae dylanwad Ysgiifennydd Cymru Fydd ar y cofiannydd. Fe'i dis- THOMAS EDWARD ELLIS grifiodd Tom Ellis ei hun fel "national- ist Radicalaidd Cymreig"; a dyna yd- oedd. Ni all ond y neb a astudiodd yn fanwl wleidyddiaeth Cymru yn ail han- ner y ganrif ddiwethaf, a gwleidyddiaeth Lloegr ac Iwerddon yn yr un cyfnod, gadw'r ddysgl yn wastad rhwng eu cen- edlaetholdeb a'u Rhyddftydiaeth. Dis- gwyliwn am ail gyfrol y Dr. R. T. Jenkins ar y bedwaredd ganrif ar bym- theg yng Nghymru. Ceisiodd Mr. T. I. Ellis fwy nag un- waith yn ail gyfrol y Cofiant* esbonio THOMAS EDWARD ELLIS. Cofiant. Cyfrol II (1886 — 1899) gan T. I. Ellis. Lerpwl: Gwasg Y Brython: Hugh Evans a'i Feibion, Cvf. Cvnlluniwvd y clawr gan William John Eames. 8/6.