Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cariad Mam Gan ALUN T. LEWIS GWTHIODD y Parch. David Rich- ards ei blât o'r neilltu heb braidd gyffwrdd y cig moch a oedd arno. Eis- teddai ef a'i wraig Hannah wrth y bwrdd brecwast yn y gegin gefn. Yr oedd yn fwy hwylus i brydau yno, ond yn un o ystafelloedd y ffrynt y caent de a swper, rhag ofn i rywun alw. Ystafell blaen oedd y gegin, papur di- gynllun ar y muriau, a stôf fawr mwy addas i westy nag i dy gweinidog. Ond pan godwyd yr adeilad dri chwarter can- rif ynghynt, nid ty g\veinidog y'i gelwid, ond plas y g\veinidog. Ar y muriau crogai llun o laniad y Tadau Pererin ar draethau America; siampler o waith mam Hannah Richards, yn rhoi ei henw a'i hoed, yr agwyddor, y ffigurau o un i naw, llun paen a cholomen, a bwthyn to gwellt, y cwbl mewn gwlân amryliw; penillion coffa ar ôl tad David Richards, wedi eu hargraffu ar gerdyn ymyl ddu, a'i fframio wedyn, a darlun lliw o blentyn bychan angylaidd yr olwg ar ei liniau ar y gwely yn dweud ei bader, mewn coban hir, a'i fam yn eistedd ar draed y gwely yn gwrando arno. Wyneb llawn oedd gan David Rich- ards, a chroen clir, difrychau fel croen plentyn. ond bod y gwrid ar ei ruddiau yn arwydd o bwysau'r gwaed yn ei wyth- iennau; tyfai ei wallt brithwyn yn hir a disgyn fel mwng ar ei war a thu ôl i'w glustiau. Cawsai fywyd cysgodol iawn, a'i fam a'i briod ar ôl hynny yn cadw gofalon a phryderon beunyddiol bywyd am y par- ed ag ef, a'i adael yn rhydd i drafod problemau ac anawsterau pobl eraill, o bulpud a Sêt Fawr. Ac os deuai prob- lem yn nes adref, er eu holl ofal hwy, gorchfygai David Richards hi drwy ei hanwybyddu; a lledai'r anwybyddiaeth yma fel cramen ar ddolur, a chuddio'r madredd, nes i amser wella'r clwy. Gwraig lednais, dawel oedd Hannah Richards, a braidd yn ddiddychymyg, ond a chanddi'r gallu hwnnw a geir yn aml yn y di-ddychymyg, i dreiddio weithiau drwy blygion caen a ffug, a gweld pethau fel y maenit, — a bodloni ar- nynt. Bu raid iddi weithio'n galed, a byw yn fain pan oedd y plant yn ifaìnc, cyn i David fynd yn bregethwr poblog- aidd, a chael ei alw'n weddol gyson i sas- iynau, a chyrddau mawr. Er bod gan David Richards wyneb tel ceriwb, yr oedd yn actor gwych, pre- gethai'n Uym a deifiol, ac yr oedd yn llawdrwm iawn ar bechodau'r oes. Y pregethu miniog yna a' cododd i reng flaenaf doniau ei gyfundeb, a mwynhâi'r tyrfaoedd wingo o dan ei fflangell. Yr oedd ei olwg urddasol yn y pulpud a chyfaredd ei ddawn yn tyneru'r chwip. Heddiw, fodd bynnag, yr oedd cleis- iau trwm oddi tan ei ddau lygad, a rhyw olwg wyllt ddyryslyd ynddynt, fel anifail wedi ei gomelu gan fytheiaid, a heb wyb- od i ble i droi. "David," meddai Hannah, "trïwch fyta, da chi. 'Rydach chi'n pigo'ch bwvd fel Robin Goch. Ddaw dim lles o wneud ych hun.yn sâl." "Byta! Sut y medra i feddwl am fyta. Chaeais i mo'n llygaid drwy'r nos." Buasai Hannah Richards vn effro am oriau hefyd heb gymryd arni wybod fod ei gŵr yn troi a throsi wrth ei hochr, ac yn siarad ag ef ei hun.