Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Syr John Rhys Gan T. H. PARRY-WILLIAMS FE ddywed traddodiad-y peth ang- hyffwrdd hwnnw sy'n honni cymaint o bethau, a llawer ohonynt yn wir-mai yng Ngogledd Sir Aberteifi, mewn lle o'r enw Brongynin y ganed y bardd Daíydd ap Gwilym yn y 14 ganrif. Yn yr un ardal bron, yn ôl traddodiad eto, y ganed yr ysgolor mawr Edward Lhuyd yn 1660, mewn lle o'r enw Glan-fred ym mhlwyf Llanfihangel-genau'r-glyn er mai ych- ydig o goel a roddir bellach ar hyn; a heb fod yn nepell, ym Mhonterwyd, wrth droed' Pumlumon, mewn bwthyn o'r enw Aberceiro-fach, y ganed Syr John Rhys yn 1840. Y mae ,tabled coffa bych- an ar dalcen y bwthyn adfeiliedig hwn ers rhai blynyddoedd; ond yng Nghered- igion heddiw, nid oes gofeb na dim o'r cyfryw i goffáu Dafydd ap Gwilym y bardd, ond y mae mudiad ar droed ym Mhonterwyd i godi cofeb leol deilwng i John Rhys yr ysgolhaig. Mi ddylwn nodi hefyd fod cerflun o'i ben yn y Llyfr- gell Genedlaethol yn Aberysîtwyth. Y mae hanes ysgolheiotod Cymraeg, heb sôn am Gelteg yn gyffredinol, yn stori ramantus dros ben. Fe gafwyd o adeg Gruffydd Robert (16 ganrif) ymlaen gad- wyn o wŷr dysgedig yn astudio teithi ac yn archwilio hanes yr iaith a'i llenydd- iaeth. Ar yr ochr ieithyddol, ar ôl Gruff- ydd Robert, fe ddaeth Edward Lhuyd, y gŵr y cyfeiriais ato gynnau. Yn lünach y rhain y daeth John Rhys. Y mae'n rhaid bod y duedd yn gynhenid ynddo. Bron na ddywedwn fod yn rhaid nid yn unig i fardd a cherddor ac arlunydd a mathemategydd gael eu geni felly, ond i ieithydd a ieithegwr hefyd. Y mae dis- gyblion, uniongyrchol ac anuniongyrch- ol John Rhys heddiw, lawer ohonynt, yn Sgwrs radio a ddarlledwyd ym mis Gorffennaf, 1948. SYR JOHN RHYS gorfod arbenigo rhywíaint yn y ddwy gangen-llenyddiaeth a iaith; ac os dig- wydd i un ohonynt fod yn fwy o astud- iw iaith nag o astudiwr llenyddiaeth, fe'i gelwir weilthiau—yn chwareus, wrth gwrs, ac nid yn ddifrifol—yn "ieithgi." Ac os fel arall, dyna fo'n "llengi"; yn un- ion fel y gelwir gŵr cadarn yn yr Ysg- rythur yn "ysgrythurgi" ambell dro. Y mae gorfod arnom ni, bawb ohonom sy'n ymhél o ddifrif ac yn broffesiynol â Chymraeg, fod yn dipyn o "ieithgwn" ac o "lengwn" i fod yn wŷr gwastad ein ffyrdd a chytbwys ein syniadau. Ond ieithegwr oedd John Rhys yn ben- naf-nid un sychlyd a diramant, cofier. Fe ymroes, y mae'n wir, i astudio llên