Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iddo nac yn aelodau o Goleg yr lesu gyf- le w glywed ac i gyfarfod ag ef. Gyda rhai o'i ddisgyblion cynharaf yn y Gym- deithas hon y dechreuodd ar y gwaith o gysoni a sefydlogi orgraff y Gymraeg- un o'r prif gymwynasau a wnaeth â ni. Yr oedd ganddo sitoc o storïau am droe- on trwstan a phethau cyffelyb, a chwardd- ai'n iachus wrth eu hadrodd. Yr oedd elfennau syml, braf yn ei gym- eriad, a nodweddion hollol ddi-lol yn ei Ni bu iddo degwch nac addurn. Fe'i codwyd o hen gerrig tir Gan ddwylo na bu iddynt geinder Ond ceinder y syml a'r gwir. Pa waeth os ceid chwydd yn ei furiau. Os pantiog oedd asgell ei do? Mor uniawn yr hen werin syml A gododd ei bwlpud o. Fe erys yr hen gapel eto- Cofadail i'w haberth hwy,- A phrinder ei degwch a'i addurn Sydd iddo'n ogoniant mwy. Llanaelhaiarn. ibersonoliaeth. Gwr mawr yn wir oedd hwn, yr ysgol- haig o werinwr o Geredigion. Yr oedd yn un o'r rhai y dywed y Apocryffa am- danynt eu bod yn "gyfryw ag a adaw- sant enw ar eu hôl, fel y mynegid eu clod hwynt." Ac y mae'n weddus ac yn wiw i ninnau ddal ar bob cyfle i goffáu gŵr fel hwn-Syr John Rhys, un o brif gym- wynaswyr addysg Cymru a phatriarch ysgolheictod Cymraeg. YR HEN GAPEL THOMAS ROBERTS.