Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gneud Plwm Pwding Gan D. JACOB DAFIS FUODD Mari 'co yn gneud Plwm Pwdin wthnos ddwetha, a na chi'r helger rhifedda weles i ariod. Mae 'run peth stil, wrth gwrs, ond leni odd hi'n wath bith. Y peth cinta sy'n digwydd bob blwyddyn yw colli'r resipi, a 'na lle bidd hi'n whilo' a twmlo, 1an a lawr, 'nôl a mlân, miwn a mas. Ond fidd ddim sinc amdano fe, a ma raid i gâl e, achos, allwch chi neud rhwbeth bach fel bara wan-tŵ heb resipi, ond am beth mowr fel plwm pwding, allwch chi bith neud e mas o'ch meddwl. Yn y diwedd ta beth, ma raid iddi find i weld Mrs. Heiphen-Jones, cadeirydd y Wimens Bechingalw, achos ma llifir mowT gida hi ar y pethe hin. Wedi jimo tipin, gwisgo hat a plifen a rhoi jililings a miwglis ohiti gwddwg, mae'n gwisgo danne dodi, a off â hi. Dim ond at dri peth ma Mari'n gwisgo danne dodi, lwchi, — angladde, cwrdde diolohgarwch a mind i weld Mrs. Heiphen-Jones. Seis- nes yw honno, chi'n diall, a ma Mari'n ffeindo fod danne dodi'n help i sharad Sisneg. Ond dinna sy'n afi obiti 'ddi, wedi câl y resipi, ma shwt bethe rhifedd yndo fe. Gil o. un peth a desert spŵn o rwbeth ar- all, a rhiw hen gomadiwe felna. Ma hinni'n ôl reit i wirbyddigions, ond dim ond llwye powtir, lletwa te a basnis sy gida ni at fesur yn y pantri 'co, a dinna Mari mewn picil ar unwaith. Ond whare teg iddi, mae'n galler geso'n wedd- ol gowir. A fydde'i ddim gwell o fesur a phwyso, achos fe fydde rhai o'r plant 'co shwr o sgwlcan rhwbeth, a dinna chi man a man a shanco wedin. A felni oedd hi leni; gorffod i fi roi whirell wrth fôn clust Shincin y crwt lleia, achos dinna lle'r oedd e'n bochio a chonio yn y cwdin cyr- (Stori yn nhafodiaith cylch Llandysul) ens fel mochin heb i wirso. Nawr wi'n lico'm bach o roch miwn plwm pwding. Rhiw flas bach i gidjo yn y nhafod i, a ma Mari'n diall y ngwendid i gistled â neb. A wedi cimisgi'r cwbwl yn y basn llath enwyn, mae'n rhoi tipin bach o esens o rym ar ben y bechingalw'i gyd, ichi'n gweld. Dim ond un dropin bach sy ise, achos mae e'n stwff mor gryf. Wel, leni pan odd Mari wedi tinni'r coroin mas, dyna'r drws yn agor a phen Mr. Jones y prigethwr yn dod i'r golwg. Fe gas Mari shwt start nes cwmpodd y botel glwriwns lawr i'r basn pwdin, a na chi'r smel rhifedda glwes i ariod. Odd e'n dod yn donne mowr dros y gegin i gyd, nes gallech chi dingi'ch bo' chi yng nghanol briweri fa\\T. Fe ath Mr. Jones yn win reit, a feddylies i am funud fod e'n mind i ffeinto, achos mae e'n ddirwestwr selog. Ta beth, fe isteddodd la\\T o'r diwedd, a fe danes i mhib ar unwaith a treio whwthi mwg i wmed e yn ddistaw bach i gadw'r smel bant. A trw buo ni'n sharad biti'r tewy a phopeth, odd Mari wrthi'n fel dou i dreio câl yr hen beth miwn i'r basnis a mas o'r golwg. A felny buodd hi; fe ìwymodd nhw lan mewn cymin o sachabwndi a alle hi, a miwn a nhw i'r dŵr dros i penne. Odd smel wedin, ond fe ath Jones whap, a dyna beth odd gwaredigaeth. Rhwng mwg a smel odd y gegin erbyn hin fel gwaith côl tar yn gwmws. Ond dyna fe, ma'r pwding yn barod ta beth; wn i ddim shwt flas fydd arno fe. Dyna'r gweitha o fyw mewn hen dy a drws y ffrynt yn y bac-ma dynion yn dod ar ych traws chi rho gwbod i chi. Odd Mr. Jones ddim fod yn y resipi, ond odd i flas e ar y plwm pwding leni wi'n shwr o hinni.