yw ei gwerthfawrogiad o farddoniaeth yn mynd yn ddyfnach na thelynegion y jazz- band a'r limeric boblogaidd? A ddylai geisio eu cyrraedd, neu a ddylai gyfadd- awdu â hwy mewn unrhyw fodd? A ddylai ddisgyn rhyw step neu ddwy megis yn y gobaith o'u dal, hyd yn oed yn an- ymwybodol iddynt eu hunain? Gadewch inni ystyried am eiliad rai o'r achosion pam y mae apêl celfyddyd hedd- iw, — a'i chymryd mewn ystyr eang yn awr, — pam y mae'n ymddangos nad oes iddi ddiben na chysylltiad â bywyd y mwyafrif o bobl. Mae'n wir, wrth gwrs, fod rhai ffurfiau ar fynegiant crefftus, fel y nofel iboblogaidd a'r ffiim, yn cylchred- eg yn ddigon llwyddiannus. Ond fe dal- ai inni gofio fod lletach bwlch heddiw rhwng y ffurfiau poblogaidd Ir/n a'r rhai eraill mwy datblygedig, nag a fu nemor eiioed. Yn Lloegr, er enghraifft, yr oedd bardd-ddramaydd cyfnod Elisabeth mewn cyswllt uniongyrchol â'i wranda- wyr, a'i farddoniaeth yn llythrennol yn mwynhau'r awyr iach. Hynny i gyd, wrth gwrs, cyn i'r ddrama fynd yn ddar- Iun a'i farddoniaeth fynd yn brint. Meddyliwch eto am yr effeithiau sy wedi dilyn mecaneiddio a safond bywyd ein hoes ni. Mae hynny siŵr o fod yn tueddu at unffurfiaeth ym meddwl ac ymddygiad pawo ohonom. A chan fod posibiliadau materol bywyd dyn wedi cynyddu cymaint yn ein hamser ni, y mae'r gofynion ar ein pwerau dychmygol a theimladol yn rhwym o ddioddef. Ac y mae'r nodweddion sy'n cyd-fynd â'r cyflwr mecanyddol hwn: dyna i chi un- donedd proses sy'n nodwedd mor am- Iwg mewn diwydiant; 'd oes gan y gweith- iwr bellach ddim diddordeb personol yn ei gynnyrch; dyna wedyn dyfiant yr un- edau mawríon, holl ruthr anorffen byw- yd a'r anhwylderau nerfol a meddyliol sy'n dilyn; y mae'r rhain i gyd yn ar- wyddion clir fod ansawdd a thempo byw- yd wedi newid yn enfawr. Ond efallai fod y rheswm pennaf yn gorwedd yn y trawsnewid a fu o'r hen drefn economaidd ac organig oedd a'i seiliau ar unedau bychain cymdeithasol fel y grwp a'r teulu,— o'r drefn yna at ffurfiau o lywodraeth mwy canolog. O ganlyniad i hynny y mae yna lai o ym- deimlad ac o ryddid cymundeb o bobtu rhwng yr artist a'i gyhoedd. Ac y mae'r cymundeb hwnnw yn gwbl angen- rheidiol tuag at lwyddiant eithaf ei gel- fyddyd. Y gwir amdani yw, yr ydym yn ceisio cadw i fyny â datblygiadau di- weddaraf byd y meddwl a phwyslais gwyddonol ein cyfnod nes bod ein pwer- au emosiynol a dychmygol yn methu ffeindio posibilrwydd normal. Canlyniad hyn i gyd yw fod adwaith y bardd i fywyd heddiw yn un cym- hleth. Fe'i gyrrir yn fwyfwy i fyd mewn- ol ei deimladau ef ei hun a chais yno roi terfyn ar bethau. A chofiwn, gan mai gŵr o gyneddfau eithriadol fyw ydyw, ei fod yn synhwyro'r gwrthdarawiad hwn ynddo'i hun o hyd. Ar un llaw fe'i cawn yn ymgodymu â 'i feddyliau preifat ac am eu mynegi yn ei iaith ei hun, iaith a ym- ddengys yn ddieithr ar yr olwg gyntaf; ac o'r ochr arall cawn ef yn ysu gan y dy- muniad yma o'i eiddo i greu'r gymdeithas ddelfrydol, cymdeithas lle bo'i lais yn llif- o'n ddirwystr rhyngddo ef a ninnau. Dyma'r rheswm hwyrach paham yr ym- ddengys ei waith yn annealladwy (ar yr wyneb, beth bynnag), i lawer o'i gyd- ddynion. Cymdeithas gymdogol, agos, — daear yn rhoi lIe a chyfle i'r ddawn bersonol, tir ffrwythlon i alluoedd y dychymyg a'r teimlad,— dyna gymdeithas ddelfrydol y bardd. Mae yna Ie felly heddiw i fardd- oniacth sy'n rhoi pwyslais ar ymdrech ac aberth dynion i ddiogelu'r gwerthoedd sy mewn rhyddid ac iawnder,-barddon- iaeth sy'n ddehongliad o'n problemau ni heddiw ac yn fynegiant o'n gobeithion at yfory.
This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.
The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.