Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Daliwn felly i gredu, yn wyneb hyn i gyd, fod ei gyhoedd yn aros ac yn dis- gwyl eto am lais y bardd. Ac y mae yna ddau gyfrwng heddiw yn ei afael y gall yn effeithiol gyrraedd ei wrandawyr drwy- ddynt, heblaw'r ffurfiau ysgrifenedig ar- ferol. Fe sylweddolwn nad oes sy'n bar- od i drafferthu llawer â darllen yn bwyll- og ag ystyriol, na gwrando'n oddefgar iawn mor bell ag y mae hynny'n mynd, mo'n cyfnod ni. Gwneir popeth inni er mwyn cael ei weld mor hawdd ag sy bos- ib1, ar amrantiad megis,­-hynny yw, y pethau y mynnir inni eu gweld, Fe sylwn i ddechrau ar gynnyrch y wasg boblogaidd lle y crynhoir popéth i ben- awdau, pethau y gellir bras-redeg drostynt mewn siop barbwr neu yn y trên neu'r bws. Mae'n debyg mai'r ffordd hon yw'r orau i gyflwyno'r newyddion i ddarllenwyr ar golÜ eu gwynt. Nodwedd oes ddi-feddwl, hawdd-ei-dal yw'r hys- bysiadau o bob lliw a llun wedyn a welwn yn syllu arnom ymhobman. Awn i'r sinema drachefn; onid yw'r pethau hyn i gyd yn eu hanfod wedi eu llunio'n ddyf- eisgar i daro'r llygad yn bennaf dim? Ond gan mai rhywbeth i'r glust yn fwyaf arbennig yw barddoniaeth, dyma bellach i'r bardd gyfle drwy gyfrwng y radio i yrru ei neges drosodd at ei wran- dawyr. Y mae yna bosibiliadau eithr- iadol yn y cyfeiriad hwn, oherwydd y mae gobaith iddo bellach fedru siarad â chyhoedd mwy eang ac â chlust dosbarth mwy amrywiol o gymdeithas. Fe all cerdd ar dudalen o gylchgrawn fod yn rhywbeth di-fywyd ag apêl ynddi at y llygad yn bennaf, ond o'i darllen yn dda y mae yna bosibilrwydd iddi neidio i fywyd drachefn a dal rhywun efallai ar ei waethaf. Arwydd da arall yw fod amryw o'n beirdd yn troi at y ddrama farddonol fel eu cyfrwng. *Peth gobeithiol iawn yw hyn. Y mae gwaith Eliot, Bottomley, Nicholson, Duncan ac eraill yn Lloegr, a gweithiau Kitchener Davies, Gwilym R, Jones a Saunders Lewis yng Nghymru yn enghreifftiau o'r datblygiad newydd hwn. Soniais am y gyfathrach a ddylai fod o bobtu rhwng yr artist a'i gyhoedd; wel, fe geir y llif o ymateb a chydymdeim- lad rhyngddynt yn y theatr. Lle y collir llawer o arwyddocâd simbolig ei waith, llawer o liw a rhythm ei batrymau drwy ddarllen gwaith y bardd yn unig, rhoddir bywyd ac ystyr newydd iddynt ar lwyfan. Ac y mae apêl y cymeriad arbennig a roddir i'r cvfansoddiad yno yn sicrach o lwyddo. Er cystal yw 'Blodeuwedd' i'w darllen, rhaid ei gweld ar lwyfan i'w hiawn werthfawrogi 'n artistig. Fe gyfaddefwn nad gorchwyl hawdd sy gan y bardd a fyn ymarfer yn y cyfrwng hwn, oherwydd beth am ei gynulleidfa- oedd? Rhai dibrofiad, annisgybledig fyddant gan mwyaf, rhai wedi ymgyd- nabod â ffurfiau mwy realistig heb fod yn gofyn ymateb mor synhwyrus nac ys- twythder dychymyg. Gall y ddrama fyd- ryddol wneud heb lawer o'r confensiynau technegol sydd yn y theatr fel y gwydd- om ni amdani heddiw. Rhaid iddi greu ei phrif effaith drwy gyfrwng, — wrel, cyf- rwng pennaf y bardd onid e, sef geiriau. Gwau rhythmau, felly, seiniau a phat- rymau, dyna'i bwTpas mawr. Y mae yna gyfle i arbofi hefyd fel y gwnaeth yr Athro T. Gwynn Jones yn ei ddarn pryd- ferth 'Tir na n-Og,' sef priodi'r chwarae â pheroriaeth. Fe gipiodd Synge ac O' Casey yn Iwerddon gyfoeth y farddon- iaeth lafar oddi ar wefusau'r werin, oherwydd y mae deunydd barddoniaeth egniol, ddiledryw, i'w gael bob dydd yn idiomau llafar cefn gwlad. A daliodd Lorca ei wrandawyr yntau yn Sbaen drwy gyfuno lliw, golygfa, miwsig a barddoniaeth yn un symudiad artistig. Felly, ond i'r bardd hefyd ofalu am ddigon o ddatblygiad plot a symudiad, bydd wedi ennyn diddordeb ei wranda- wyr i ddyfod i'w gyfarfod beth o'r ffordd, beth bynnag.