Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Datblygiad ei batrwm, felly, arbrofi mewn ffurfiau mydryddol, dyna ddylai fod yn brif nod gan y bardd a fyn orch- fygu dust a chalon ei gynulleidfa new- ydd. Bydd ei lwyddiant yn dibynnu ar ei allu i ddefnyddio iaith â'r miwsig a'r nerfusrwydd hwnnw a berthyn mor agos i'r bywyd brodorol. Ac ond i'r gwran- dawr ymildio fe gaiff yntau brofiad teim- ladol, — yr hyn yr aeth i'r theatr gyda'r bwriad o'i gael. Cyfleir yr effaith ddram- atig iddo drwy briodas gyfrin y croes- Derwen Las. rythmau, y seiniau a'r patrymau a weodd y bardd. A chan fod y Gymraeg yn iaith mor seinber, a phosibiliadau'r gynghanedd at a'lwad y beirdd sy'n barod i anturio ar ffurfiau newyddion, bydd yn ddiddorol iawn gwylio datblygiad y ddrama fyd- ryddol yng Nghymru yn ystod y blyn- yddoedd i ddod. Ond y mae llawer o waith paratoi a Hawer o waith ym- ddisgyblu. EBRILL Oni welais yr actorion Yn perfformio yn odidog Mewn dihalog wisgoedd gwynion? Oni chlywais i'm sirioli Glebran dawnus yn y brigau Deuoedd dedwydd newydd briodi? Oni welais flodyn tirion « A briallu yn glystyrau Wedi dod o'r bedd yn brydlon? Dacw gawod ar y mynydd, Ond mae heulwen yn ei dilyn; Dawns y cread gan lawenydd. W. J. RICHARDS.