Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llenyddiaeth Gyfoes Ffrainc a Chymru Gan GARETH ALBAN DAVIES, Coleg y Frenhines, Rhydychen. MEWN sgwrs radio beth amser yn ôl, maentumiai E. M. Forster y dylid cofio, wrth ystyried dylanwad awduron eraill ar feddwl un awdur arbennig, nad yr awduron clasurol sydd fwyaf chwyl- droadol eu heffaith, ond yn aml rai llai pwysig ac yn y pen draw rai sy'n llai gwerthfawr. Dangosodd Forster wedyn gymaint yr effeithiodd gwaith Samuel Butler ar ei ddatblygiad ef, ac ar y llaw arall cyn lleied o ddylanwad a gafodd Homer a Fyrsil arno, er iddo eu hastud- io. A'r ffaàth hon sy'n rhoi imi'r esgus dros beidio â thrafod gwaith awduron cyfoes Ffrainc yn union yn ôl eu pwys- igrwydd cynhenid, ond yn hytrach gadw ein llygad ar eu defnyddioldeb fel patrwm inni heddiw yng Nghymru. Felly, er enghraifft, ni soniaf am Gide-nid am nad yw'n llenor o'r mwyaf, ond am ei fod mewn gwirionedd yn perthyn i'r gτ-ιîvp hwnnw o lenorion sy'n creu'r llenydd- iaeth barhaol yr ydym yn ei chanlyn o bell, ac yn talu gwrogaeth iddi, ond heb fod ganddi'r nodweddion neilltuol hynny a all lunio un math arbennig o ddylanwad ar feddwl awduron eraill. Ond cyn troi at y pwnc ei hun. dylid ystyried beth yn union yw'r diben o gael gwybodaeth am lenyddiaeth Ffrainc. Onid oes gennym eisoes draddodiad llen- yddol digon hen a chadarn inni adeiladu arno heb inni orfod benthyca syniadau a ffasiynau estronol? Ac ymhellach, oni cheir eisoes, yn llenyddiaeth ein cymdog- ion, y Saeson, ddigon o ffynhonnell ys- brydiaeth heb fod angen inni chwilio mewn cyfeiriadau eraill am newydd-deb a ffresni? Y mae'r ateb i'r cwestìwn cyntaf i'w weld yn nhraethawd disglair T. S. Eliot ar Tradition and the Individual Talent.' Byrdwn ei ddadl yw bod rhaid i bob art- ist fod yn ymwybodol o'r holl draddodiad Ewropeaidd: y mae ymddangosiad gwaith newydd o bwys yn golygu newid mymryn ar holl drefn lenyddol y Cyfandir o'i dechrau hyd at heddiw. Mewn traethawd arall, 'The Function of Criticism,' y mae Eliot yn manylu ar ystyr y ddadl hon: "I thought of literature then, as I think of it now, of the literature of the world, of the literature of Europe, of the literature of a single country, not as a collection of the writings of individuals, but as 'organ- ic wholes,' as systems in relation to which and only in relation to which, individual works of literary art, and the works of individual artists, have their significence. There is accordingly something ouside of the artist to which he owes allegiance, a devotion to which he must surrender and sacrifice himself in order to earn and to obtain his unique position. A common inheritance and a coimmon cause invite artists consciously or unconsciously: it must be admitted that the union is mostly unconscious. Between the true artists of any time there is, I believe, an unconscious com- munity."Os derbyniwn y datganiad hwn, y mae'n hawdd deall pam nad yw'n bos- ibl i lenyddiaeth Cymru sefyll ar wahân. Yr ydym yn rhan o wareiddiad y Gor- llewin, ac er bod y traddodiad llenyddol Cymraeg yn gamlas sy'n arwain trwy ei feysydd arbennig ei hun, y mae'n tynnu ei dyfroedd o ffrydiau helaeth cyfandir cyfan. Y mae ein traddodiad ninnau 'n Gymreig yn yr ystyr mai mynegiant ydyw mewn lIe a mewn ffurf arbennig o dra- ddodiad mwy. Cawn weld pwysigrwydd y ddeubeth hyn yn nes ymlaen. Beth felly am yr ail gwestiwn, sef y digonedd