Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mynd Gan MATHONWY HUGHES "OES y mynd yw'r oes hon," meddai rhywun. Ni fu erioed fwy o wir. Cyflymder, sbid, dyna yw popeth. Wrth fesur ei gyflymder y penderfynir gwerth a defnyddioldeb dyn a pheiriant: awyrblan yn ymsaethu drwy'r ehangder yn ôl cyflymder o chwe chan milltir a mwy yr awr; ceffyl neu fojtor beic yn pasio'r post o flaen ei gymheiriaid; hyn a hyn o gynnyrch mewn hyn a hyn o am- ser goruchwyliwr ffyrm yn ei swydd- fa yng ngwallgofrwydd ei helbul mas- nachol yn rhaeadru fel llifeiriant Niagra ei gyfarwyddiadau a'i atebion i'w fynydd llythyrau wrth dipyn o deipydd, a hon- no'n scriblo'r cwbl mewn llaw fer â chyflymder anhygoel dyna'r pethau sy'n cynnal ein bywyd modern; dyn- a'r gymdeithas ruslyd y'n ganed yn rhan annatod ohoni. Byd prysur yw'r byd hwn ac am hynny byd bychan yw. Neu, os myn- wch, y mae'n brysur am ei fod yn fych- an. Y mae'n fychan bellach mewn mwy nag un ystyr, Oni rychwantwyd yr eangderau? Oni phlymiwyd dyfnder- oedd yr eigion? Oni phwyswyd y cread mewn cloriannau? Onid Arglwydd y cyfan yw gwr bach y Swyddfa Fusnes? Oni chydiwyd eithafoedd daear wrth ei ddesg? Diddymwyd amser a phellter a thragwyddoldeb. Mewn cyflymder a melltenrwydd symud y mae anfarwoldeb. Eithr atolwg, beth yw cyflymder? A oes y fath beth a symud? Amheuai'r hen athronydd Zeno yng Ngroeg bum can mlynedd cyn geni Crist fod y fath beth â chyflymder. Fel hyn y dadleuai ef: — Bwriwch chwi fod A eis- iau symud o bwynt X i bwynt Y. Fe olygai hynny, wrth gwrs, ei fod yn croes- i'r pellter tybiedig a fyddai rhwng X a Y. "Ond," meddai Zeno, "y mae pob pell- ter yn anfeidrol ac anfesurol oherwydd y gellir ei rannu'n ddi-ddiwedd. Nid oes y fath beth hyd yn oed â 'phwynt' mewn gofod na ellir ei hollti drachefn a thrachefn am byth." "Felly," meddai'r hen athronydd, "celwydd yw haeru y gall ysgyfamog basio crwban mewn ras redeg, er i chwi fod yn edrych ar y peth yn digwydd o flaen eich llygaid, gan na fydd iddi fyth groesi'r holl ofod a or- wedd rhyngddi a'r crwban ar gychwyn y ras." Yng ngoleuni'r ddamcaniaeth hon, ychydig, os dim, gwahaniaeth sydd rhwng 'mynd cyflym o le i le' a chyflym- der 'mynd-di-symud' peiriant yn ei un- fan. Ond nid am y mynd carlamus, arnheus hwn sydd mewn rhuthr a phrysurdeb y caiwn sôn, mwy nag am fynd i'r Nef- oedd, canys mater i ddoethor ei drafod fyddai'r naill a phwnc i ddiwinydd fydd- ai'r llall. Nid wyf fi'r un o'r ddau. Sôn a garwn, yn hytrach, am afnbell fynd arall sy'n lla wer mwy personol, a pheth y gwyddom, y mwyafrif mawr ohonom. ei brofi rywdro neu'i gilydd gydol oes. Ac y mae amryw byd o'r rheini. Mynd i'r ysgol am y waith gyntaf erioed, er enghraifft, dyna fynd bythgofiadwy oedd hwnnw. Yna'r mynd rheolaidd hwnnw sy'n troi'n fwrn ar- noch fel mynd i'r capel. Un mynd gwaeth y gwn i amdano, sef mynd at y deintydd, y mynd-unwaith-am-oes hwnnw yr arswydir cymaint rhagddo, ac y rhyfeddir, wedi bod, nad oedd cyn- ddrwg â'r ofnad wedi'r cwbl.