Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

soniwyd eisoes amdano, sef 'mynd yn hen'? Wedi'r cyfan, onid mynd 'oddi wrthym' ein hunain, neu'r hyn yr arferem fod o leiaf, yr ydym wrth heneiddio? Beth bynnag sydd i'w ennill, ac y mae llawer, yn amlder y blynyddoedd, cyll dyn mewn sbonc ac antur. Ac eto mae rhyw urddas mewn hen- eiddio'n dywysogaidd. Mae'n bosibl mynd yn hen heb hen- eiddio fel y mae'n hawdd heneiddio cyn pryd. Canys beth yw hydref, wedi'r cwbl, ond "cawellaid o ffrwythydd haf," aedd- fedrwydd tymestl a heulwen? Ac od erys o hyd I hybu'r galon rhwng yr esgyrn crin. AN AIMSIR CHEILTEACH YR AMSER CELTAIDD FORT STREET, CORK (EIRE) Y papur gwir Gydgeltaidd ac iddo olygiad cenedlaethol Materion diwylliannol, economaidd a gwleidyddol o'r diddordèb mwyaf i Wyddyl, Cymry, Albanwyr a Llydawiaid Tanysgrifiad blynyddol: 5/- Copi enghraifft: 4c. trwy'r post beth o'r gwin y mae gobaith bod "yn annwyl hyd benwynni," ac yn "dlws tra bo anad! Gwyn eu byd y cyfryw rai. Canys yng ngyflawnder yr amser, hwynthwy nid arswydant rhag y bwlch olaf y bydd gof- yn ar blant dynion fynd drwyddo. A pham lai? Fe ddichon na bydd y 'mynd' hwnnw gynddrwg ag yr ofnwyd i neb ohonom, ac na wnawn wedi'r ffwdan fíôl Ond llithro i'r llonyddwch mawr ym ôl. Llonyddwch yr hen gynefin! Ac felly, o daeth dros y cyfan ddieithr- wch ein gwahanu mawr, mynd adref y byddwn. LLYFRAU GWASG Y BRYTHON CERDDI DAFYDD OWEN. Casgliad o gerddi v bardd ifanc a enillodd Goron Eistedd'fod Genedlaethol Bangor, 1943 Lliain 3/6. Y DWYRAIN A CHERDDI ERAILL Gan G. Gerallt Davies. Enillodd y bryddest 'Y Dwyrain' goron Eisteddfod Môn 1944. Lliain 3/- UNWAITH ETO. Telynegion Newydd Wil Ifan. Ceir yn y llyfr bedwar dar- lun wedi eu tynnu o ddarluniau lliw yr awdur. Lliain 3/6. Y BARDD YN EI WEITHDY. Ysgyrs- iau gyda rhai o Brifeirdd Cymru dan olygiaeth yr Athro T. H. Parry-Will- iams. Lliain 2/6. BYWYD A GWAITH ISLWYN. Gan D. Gwenallt Jones, M.A., Ei Hanes: Pregethau: Diwinyddiaeth: a'i Syn- iadau Llenyddol. Lliain 2/6. DIOGELU DIWYLLIANT. Gan H. D. Lewis, M.A., B.Litt. Casgliad o ys- grifau; Y Gelfyddyd o Wrando: Y Bardd a'r Athronydd: Beirniadaeth» Adrodd: Dilema'r Brifysgol: Y Brifys- gol a'r Werin. Lliain 3/6. Y PATRWM CYDWLADOL. Gan J. Gwyn Griffiths, M.A. Rhif 18 yng Nghyfres Pobun. Lliain 2/6. Anfonwch am restr gyflawn: HUGH EVANS A'I FEIBION CYF., 9-11, Hackins Hey, Lerpwl 2