Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Genedl Heddiw Gan D. EIRWYN MORGAN NID annheg ydyw gofyn a ydyw dydd y genedl ar ddarfod amdano, ac, yn wir, peth cyffredin yw clywed yr ateb, mai felly y mae, heb fawr drafod y pwnc mewn dadl a gwrth-ddadl. Y peth a ddywedir am y genedl a ddywedir hef- yd am ffurfiau cymdeithasol eraill, wrth gwrs, y teulu, er enghraifft, a'r ardal,- ffurfiau "naturiol," fwy neu lai, a'r wladwriaeth,- ffurf gelfyddydol, swydd- ogol. Yn aml, nid yw'r gosodiadau hyn am ymchwiliad y ffurfiau onid myneg- iannau o ddyhead teimladol yr astudiwr cymdeithasegol, (os caniatà'r darllenydd gwâr frawddeg mor dolciog), ond gall y cymdeithasegwr anfoddog ddannod i'w gyd-astudiwr sy'n credu ym mharhâd y gymdeithas draddodiadol mai dymuniad is-resymol a'i hysgoga yntau. Ni allwn ymryddhau'n llwyr oddi wrth rag-dyb- iau, ond gobeithiaf nad rhagfarn a bair i ni fentro'r gred y bydd y genedl gyda ni am dipyn eto. "Ai peth sydd ar fin di- flannu yw cenedlaetholdeb?" gofyn Syr Arthur Keith, (yn ei lyfr diweddar, "A New Theory of Human Knowledge"), "a lyncir cenhedloedd yn y diwedd mewn gwladwriaeth-byd? Ni fentraf fwrw fy ngolwg ymlaen onid am ychydig ganrifoedd; o fewn y terfynau cyfyng hynny, diogel ydyw gennyf nad gwan- hau, yn sicr ddigon, a wna cenedlaethol- deb, eithr yn hytrach o lawer, ymgryf- hau." Gwych yw clywed gwyddonydd yn mentro darogan parhâd cymdeithas ddynol, mewn ffurf yn y byd, "am ych- ydig ganrifoedd," canys ni ŵyr neb yn well na'r gwyddonwyr bosibiliadau di- frodol eu hoffer. (Pregeth huawdl a dra- ddodwyd yn "Punch" rai misoedd yn ôl mewn llai na chwarter colofn: Llun yr Athro X yn chwalu pelen ddaearol blast- ar, a'i ymholiad dwys yn ysgriíenedig oddi tanodd: "See what I mean?") Os ewyllysia'r teulu dynol barhau, nid yw'n debygol y gwarafunir iddo gan Grëwr doeth a chariadus a da, ac onid yw'n gwneuthurwr yn fwy di-ddychymyg nag y tybiwn, nid yw'n bosibl iddo roi Es- paranto ar ein tafodau ni i gyd na phlannu ynom anian anghyfandirol, ang- henedlaethol. Mor fynych y clywsom ddweud mai melltith ein canrif ni ydyw'r ysbryd cen- edlaethol brwd? Onid dyna wreiddyn chwerwedd yr hanner canrif adwythig ddiwethaf yn hanes Ewrop, ac achlysur, onid achos, y ddau ryfel byd? A gwir ddigon yw'r haeriad. Cenedlaetholdeb yw un o bennaf cythreuliaid y byd di- weddar, cenedlaetholdeb di-amod, cen- cdlaetholdeb absoliwt. Mor rhwydd y rhed ein pennaf doniau i ormod rhysedd, fel y mynegodd moesegwyr yn dra myn- ych, — haelioni'n afradlonedd, gofal yn bryder, blas yn wanc. Felly y trowyd y ddawn genedlaethol yn ffyrnig nwyd anwar. Na ato Duw i'r "ychydig ganrifoedd" nesaf weld llur- gunio'r drefn "anianol" genedlaethol, y bwriadwyd iddi fod er cyfoethogiad pobl- oedd. Cenedlaetholdeb heddiw ac yfory, boed yn genedlaetholdeb 'eil-radd,' am- odol. Nid diogel un math arall. Doeth yw cydna.bod mai perthnasol yw cenedlaetholdeb pe na buasai i ni ei ys- tyried oddieithr yn ei gefndir hanesyddol yn unig. Peth lled ddiweddar ydyw yn hanes dyn, a newydd-ddyfodiad yn y "drefn" yw dyn yntau. Rhydd Spencer Jones y dyddiadau amcanushyn yn "Worlds Without End": Oed y ddaear^tua 3,000,000,000 0 flynyddoedd.