Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Iâr Goch a Phetha' Arall GAN JOHN ELWYN WILLIAMS, HYD yn oed bora heddiw, a finna' ar fy ffordd i'r ysgol, y mae fy nghlust chwith i'n hwmian fel polyn-teligraff ar ôl clustan fy nhad neithiwr. Rhaid ei fod o wedi fy nghlywad i'n mynd i lawr y grisia', achos y mae'r ail o'r gwaelod, pan rowch eich troed arni, yn rhoi clec fel clec torri coed-tân ar draws eich pen- glin. Mi driais i ei setlo unwaith trwy rwbio lard iddi, a dyna'r adag y llithrodd mam ar y grisia' a thorri ei choes. Rhaid ei fod o wedi sleifio'n o fuan ar fy ôl i, felly, i weld be' 'r 'oeddwn i'n ei wneud o'r gwely a hitha' 'n hanner nos. Ond wnaeth o ddim meddwl fy mod i wedi myned i'r gadlas, chwaith, achos 'r 'oeddwn i wedi bod i mewn ac allan o'r cwt ieir cyn iddo fy nal i. Y mae 'Nhad yn ofnadwy, mae o'n medru bod ym mhob man ar unwaith. Pan fyddwch chi'n gwneud rhywbeth yn ddistaw bach ar eich pen eich hun, fel torri wya' i'r ci, ne clymu coes un iar wrth goes iâr arall, ne' reidio ar gefn yr hwch, ac felly ymlaen, mi fydd o'n siWr o ddod ar eich traws chi a difetha pob dim. Un tro, pan oedd o wedi mynd efo Mam i bwyllgor dir- wast yn y capal, es i ati i baentio cyrn y fuwch goch a oedd i fynd i'r sioe'r diwm- od wedyn, ac ar òl iddi roi ei chefn trwy ddrws y cwt-lloi a'i falu'n racs, llwyddais i'w chael i mewn i'r beudy a'i rhwymo. 'R oeddwn i newydd orffan un corn iddi'n reit ddel, pan sylwais ar y beudy'n t'wyllu'n sydyn. 'Nhad oedd yno, wedi fframio 'i hun yn y drws a'i wynab o cyn gochad â thân-tôst. 'R oedd y ferlan wedi mynd â 'nhw' i'r ffos a Mam wedi rhwygo'i ffrog at ei gwddw wrth gamu i lawr o'r fflôt. Yn fy ngwely wedyn, gorweddais a'm pen o dan y dillad rhag imi ei glywad o'n mynd trwy'i betha' wrth Mam am gownt y paent a'r drws. 'R oedd y paent yma hyd fy nwylo'i i gyd, a'm bysadd i'n glynu wrth ei gilydd fel petawn i wedi bod efo'r jam, ond wedi imi godi a'u rhwbio 'nhw 'n un o'i grysa' gora' o, 'r oeddwn i'n teimlo tipyn bach gwell. A neithiwr, pan welais i o'n rhuthro i'r gadlas efo'r lamp-beudy 'n ei law, ac yn gweiddi "Ifan! Chdi sydd yna, 'r cythra'l," dechreuodd fy nghalon i i bwmpio fel dwrn Mam ar gefna 'r gwartheg. 'R oeddwn i'n treio cofio ym mha goes 'r oedd ei gryd-cymala' o, er mwyn imi gael mynd heibio i honno, pan saethodd allan efo'i law gorddi, mor sydyn â llyfiad tafod buwch, ac am funud 'd oeddwn i'n gweld dim ond lot o sbarc- ia' o'm blaen. Ond 'r oeddwn i'n y ty o'i flaen o, hefyd, ac yn fy ngwely'n gwrando arno fo'n cael damwain efo'r pwcedi llithio a fydd Myfi byth a hefyd yn anghofio'i cadw o flaen y ty. Y mae'r peth i gyd yn rhy wirion i sôn amdano, a dweud y gwir, a 'rydw' i'n gwybod na waeth imi heb a thrio egluro iddo fo nac i Mam pam 'r oeddwn i'n y gadlas am hannar nos neithiwr. Bora' ddoe y dechreuodd y cwbl. 'R oeddem ni i gyd adra' o'r capal erbyn un ar ddeg, achos fel yna y bydd hi bob am- sar pan fydd Elias Huws, Bont, yn pre- gethu yno. 'Dydw'i ddim yn cofio imi 'rioed fedru gorffan naddu f'enw ar y sêt pan fydd o acw, ac os bydd o'n dechra' trwy ofyn inni fadda' iddo fo am ryw an- hwylder oedd arno, yr hwn a allasai dartu ar y gwirionedd o'i enau ef, gellwch chi fentro wedyn y byddwch chi allan ac ar eich ffordd adra' ymhen chwantar awr. Ond y mae'r hogia' i gyd yn ei hoffi o, hefyd, achos yn yr Ysgol Sul, os bydd-