Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Carreg-yr-oged Gan A. JENKINS-JONES BUM heibio i hen fferm Carreg-yr-oged heddiw, er efallai fod bai arnaf am gymryd hynt i ben y mynydd a hìthau'n brynhawn Sul. Ddoe bûm ar yr un llwybr o'r blaen yn camu'n ddwys o dan elor yr hen Ddaniel Ellis. Ryw- fodd nid oedd modd peidio â meddwl am yr hen wr a'i gartref hynafol. 'R oedd y lle yn aros, a thalcen gwyngalchog y ty yn dal mor gadarn yn erbyn gwynt a glaw ag oedd chwe mis yn ôl, ond nid Daniel Ellis oedd yno mwyach. A dweud y gwir, nid oedd Daniel Ellis wedi bod yn byw yno ers dau fis cyn ei farw. Nid ag ansoddair y gellir disgrifio cym- eriad Daniel Ellis. Rhyw ddwy flynedd sydd er pan gwrddais i ag ef gyntaf, ond yn yr amser hynny mi ddysgais adnabod y didwylledd a oedd yn ei lais garw, a gweld rhyw dynerwch cyfrin mewn dau lygad du a oedd bron o'r golwg o dan ei aeliau. Gofynnwyd imi un noson i fynd i fyny i'r fferm i helpu ei fab, Ifan, i lanw ffurflenni i'r Weinyddiaeth, ac ar ôl gwneud hynny, a chael swper da gan Ifan a'i wraig, aed ati ymhen yrhawg i adrodd chwedleuon a storiau. Rhyw ffraethineb Coleg oedd gennyf fi, a hwnnw'n ddigon tlawd, ond deunydd y bryniau a oedd yng ngwead Daniel Ellis. Sôn am ddefaid barus a Uydnod bras y llethrau a fynnai Ifan, ond arall oedd ansawdd ymgom ei dad. Yr hyn a'm synnai i oedd nad oedd amser a threiglad y canrifoedd yn golygu dim i Ddaniel Ellis. Soniai am Abraham fel pe bai wedi food yn gyfoeswr i Howell Harris, ac ym myd di-amser ei ddychymyg ef yr oedd Dewi Sant a Williams Pantycelyn yn gymdeithion cyfoes. Credaf mai hyn a gyfrif am ei frwdfrydedd cynddeiriog o blaid ei hawliau ryw chwe mis yn ôl. Chwi gofiwch fel y daeth rhyw giwed ddieithr o swyddfeydd Lloegr i lawr i Langaron yr haf y llynedd. Yr oedd craffter yr hefoog yn eu Uygaid, ac anian y fwltur yn eu gwaed. Daethant yno i ladd-lladd hen fywyd y wlad, ei gladdu, a rhoi clo ar y bedd fel na ellid byth mwy dreiglo ymaith y maen oddi arno. Awr ofnadwy oedd honno yn hanes Llangar- on. Yr oedd yr hen fywyd dan fygyth- iad, a dyma Daniel Ellis yn cyfodi fel proffwyd i lefaru yn wyneb y gwifoerod. Nid oedd Daniel Ellis wedi syllu am drigain mlynedd ar ddarlun y Tadau Methodistaidd ar wal y gegin heb fod peth o'u huodledd wedi deillio i'w galon ef. Cofiaf amdano un noson ar lwyfan neuadd y plwyf. Yr oedd brwydr yn ei ystum a her yn ei lais. Soniodd am lwybrau coch y bryniau a arweiniai, un i eglwys y llan yn y glyn, un i Salem y Trefnyddion, ac eto un i ysgol y plwyf,- llwybrau a droediwyd gan bererinion yn eu brethyn cartref, llwyforau a dystiai mai nid ofer y cyfrifai ein tadau ddoniau y Ffydd a rhoddion doethineb. Yr oedd Sais yn y cyfarfod, dyn digon diniwed, am a wn i, a ddaeth am dro i'r wlad a'i enwair ganddo. Edrychodd Daniel Ellis ym myw ei lygaid, ac yna edrychodd ar y dorf. Gwefreiddiodd ei lais, nes bod rhyw ddisawrwydd hynod yn yr ystafell. Syllodd i lygaid y Sais a dywedodd: "Tydi yw Ahab y genhedlaeth hon, a thi a ddywedi, 'Dyro imi dy winllan fel y byddo hi yn ardd lysiau.' Na, nid gardd lysiau eithr cors ddiffrwyth! 'Mi a roddaf iti am dani winllan well na hi,' meddai Ahab wrth Naboth, 'neu, os da fydd gennyt, rhoddaf iti ei gwerth hi yn arian.'