Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr oedd sŵn aflafar miwsig negroaidd yn deillio o'r gegin lle gynt bu desgant emyn a salm, ac yr oedd peiriannau ar- edig yn ymgripian ar y fawnog fel lindys ar ddail bresych. Annwyl a chysegredig i Daniel oedd y Sul, eithr yn awr nid oedd y Sul yn bod o gwbl. Ond y gern- od chwerwaf oedd gweld Ifan ar y clôs Derwen Las, yn porthi anifeihaid ei feistr newydd- Ifan, na fu arno feistr erioed, yn gweini i estron ac yn gwenieithio iddo mewn Saes- neg acennog. Os oedd arian yn yr Esgair-fach, nid oedd ond cysgodion o hunllef erbyn hyn yng Ngharreg-yr-oged. YR ATOM BOM Dyfais enibyd a greodd Gwareiddiad i ladd heb ball. Ceidw pob gwlad ei hanes Yn gyfrin oddi wrth y llall. Dynion blaenllaw y gwledydd Ä'n orffwyll o'i thraíod brpn, Hoffant ymffrostio n wrol A lleohu yng nghysgod hon. Edrydd llwch Hiroshima Y 'stori dristaf i'n clyw,- Gwarth o ymdrin â thegan Sy'n elyn i bopeth byw. Gwerin byd a arswyda Rhag hunllef ei phriffordd lom; Rhagrith yw sôn am Heddwch, A chwarae â'r Atom Bom. W. J. RICHARDS.