Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Parlwr Godro Amdani Gan HARDY NAYLOR YN y gorffennol bu Cymru wledig yn llawn cymaint o "dir dirwasgiad" â Chymru ddiwydiannol, a hyd yn oed heddiw, ar adeg o lwyddiant cymharol, y mae'r safon byw yng nghefn gwlad yn rhy isel 0 lawer. Y mae adroddiadau di- weddaraf Adran Economeg Aberystwyth yn profi'r hyn a oedd yn wybyddus ers tro, sef fod codi heffrod T.T. yng Nghym- ru i'w gwerthu i ffermydd Lloegr yn gol- vgu cymryd llafur di-dâl teuluoedd Cym- ru fel sybseidi. Daeth yn beth traddod- iadol i ddisgwyl llwyddiant yn unig ar ffermydd a fendithiwyd ag amryw o feibion. Ond er i'r pwyslais ym myd y llaeth yng Nghymru fod yn fwy ar fagu heffrod i laetha nag ar gynhyrchu llaeth fel y cyfryw, nid oes amheuaeth erbyn hyn, os caiff y ffermwr Cymreig ei ffordd, na ddaw cynhyrchu llaeth y rhan bwys- icaf o amaethyddiaeth Cymru, ac mai dadfeilio a wna'r diwydiant magu lloi i'w hallforio i Loegr. Er bod cynnydd mewn cynhyrchu llaeth yn y blynyddoedd diwethaf yma, yr ydys yn parhau, er hynny, i ddefnydd- io adeiladau sydd yn gwbl anaddas at y gwaith. Yr adeiladau presennol ar ffermydd Cymru yw'r gwaethaf at bwr- pas cynhyrchu llaeth, fe ddichon, ym Mhrydain oll, a chan mai daliadau ten- antiaid a mân dyddynwyr yw'r rhan helaeth o ffermydd y Dywysogaeth, ych- ydig o obaith sydd am welliant yn y peth hwn. Yn wir y mae perygl y gwelir defnyddio'r diffyg adeiladau pwrpasol yn arf i orfodi'r ffermwr Cymreig i droi'n ôl at fagu stoc yn unig, ac y bydd iddo felly golli'r gwaith mwy enillfawr o gynhyrchu llaeth. Ar yr un pryd nid yw ffermwyr Cymru heb fedru gweld eironi ceisio cael ganddynt fagu stoc T.T. 1'w gwerthu i ffermwyr Lloegr, tra yw'r .posibilrwydd y caniateir trwydded T.T. iddynt hwy eu hunain ond yn bur fychan. Yr ateb i'r diffyg presennol y ddiàmau yw Parlw Godro, a defnyddio llaw "neu beiriant godro yn ôl yr herwydd, a llaeth- dy syml ynglwm wrtho. RhoddaPhyn ganiatáu i bob fferm drwydded T.T. Hyd yn hyn cysylltwyd parlyrau godro â buchesi mawrion, llwyddianfius. Mae'r rhain, fel rheol, yn ddyfeisiau cyw- rain a chostus, ond y maent yn anaŵlas i ofynion perchennog buches fechan/ Y mae'r parlwr godro, wrth gwrs, yn llÌRach "walk through bail" Awstralia a New Zealand, sydd â llawr concrid a chorau coed yn hanfodol iddo. Y cwbl sy'n angenrheidiol ar y fferm Gymreig gyff- redin yw parlwr dau-gôr, a Uaethdy; yn glwm wrtho. Nid rhaid i'r parlwr fod yn fwy na saith troedfedd wrth bedairar- ddeg. Ni byddai codi'r fath adeilad o ffram o goed neu ddur ac asbestos yrr f ur- iau, a slabiau concrit yn y corau i gynnal y muriau, yn costio fawr, ac ni byddai ei godi ychwaith y tu hwnt i fedr y llaf- ur arferol sydd i'w gael ar y ffermydd. Dylid cynllunio'r parlwr yn hwylus i weithio ynddo: y corau yn ddwy droed- fedd a hanner o led, y gist gaeennau'n rhaniad rhwng y corau, a'r cafn bwydo ym mhen y côr, a hwnnw ei hun yn ddrws i'r g\vartheg gerdded trwyddo wedi godro-y godro o'r dde neu o'r tu chwith, fel â pheiriant. Byddai llestr derbyn llaeth ar y mur yn caniatáu i'r llaeth fynd yn syth i'r oeriedydd yn y llaethdy — hwnnw'n ^tafell laeth ac yn ystafell olchi. Byddai cyfuniad o danc