Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

golchi a phair di-heintio yn cyfarfod ag anghenion buches fechan. Yn sicr, y mae traddodiad y beudy fel man godro bellach ar ddarfod amdano, a chan fod beudai Cymru'n anghymwys at gynhyrchu llaeth, nid oes amau na bydd- ai defnyddio parlwr godro yn gyffredinol yn sicrhau dyfodol i'r ffermwr llaeth. Arferai fy nhadau dy addoli yng nghysgod perthi ar nosau mwyn; ni feiaf, ni chondemniaf hwy. Pa beth sydd inni i'w ddywedyd? blentyn oes ersats, sy'n ofni dy gynhyrfiadau, dy dristwch a'th ddwyster, dy burdeb a'th wirionedd? Onid gwell dy addoli di na'r sinema a'r sioegŵn a'r caffi, y powdwr, a'r oel gwallt a r parchusrwydd ? Gwell ymgrymu iti, ddrych fy Nhad, nac i'r pwys menyn, nac i annidwylledd ein calonnau? Ni allaf weld tuhwnt i'r sêr, ond gwelaf di: ac wrth ymgrymu it', ymgrymaf hefyd iddo Ef a'th wnaeth. Coleg Bala-Bangor. Oni bo arfer cynllun o'r math hwn, odid na welir .ffermwyr cefn gwlad Cymru yn gorfod parhau i fagu gwartheg ar lafur teuluol di-dâl, a'r llwybr, fe ddichon, yn agored i gynlluniau'r Swyddfa Ryfel, a'r Dywysogaeth o ganlyniad yn cael ei defn- yddio'n wersyiloedd hyfforddiant eang i'r swyddfa honno. Y LLOER D. ALUN LLOYD.