Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Machludodd yr haul orenfflam. Yn awr, cyfyd niwl, mwg o'r crochanfynydd, i ymlid y dewingoed gwallt-ar-dân, hwy a'u gwyrdd-chwerthin, ymaiith. Pan ddringai'r boreau bohemaidd eurisiau'r belen daeth breuddwyd o'r pridd, geiriau o'r garreg, a'r freuddwyd a'r geiriau'n wir a'r gwir yn gelwydd. Y dwthwn hwn, bysedd, crwydrwn y cyrtennau astudiwn y tyllau pendronnwn y patrwm; gwelwn, ond ni ddeallwn ddim. Ond y mae'r derw-wrachod yn gwrando'r gwýnt, y gwynt yn ei ail-adrodd ei hunan, a hwythau'n crefu i'w coflaid un ddeilen i ddarllen ar ei chledr dynged. O lances laswisg, pa le mae heuliw dy lwynau a'th gwmwl-benelin gwyn-a-gwyn a fu'n pwyso ar rug-glustog y pellter? Nid oes ond y gwynt, y corwynt cry, yn chwythu ar baen y niwl ac yn rhwfoio a rhwbio â deheulaw o grinddail, fandal a fyn dy weled; ac nid oes ond y gathnos yn pwran ar bum mynydd a hanner, a'r cynffon-telegraff yn cyrlio i'r cyrrau ac odditanodd, yn ein pawendai, ni. Yma, caregwyd murmur a mwrdwr a'u naddu'n armada i'r môr macadam, ninnau'n nofio'r cols-donnau i'r bae Ue daw torddwr, dwrn-tan-ên nosddydd nwyd. 0, araf, troediaf y traeth sang ddi-sig a sang ar filltiroedd tynged y tywod; af i ogrwn â deufys gastell a thŵr ger fy nghraig-angeuau a ddryllia ton-yfory a dufor doe.