Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Machynlleth, Mewn cwm sych dan grinddail Daeth arnaf ddiflastod gwin. Cofiais lwch ar sandalau Un wen ei gwisg, lwyd ei hwyneb; Do, cofiais ei llygaid. Daeth ataf pan oedd mymryn haul Yn cyffwrdd â choed rhyw hen neithiwr; •Daliai ysgub o wenith bras. Cymerodd fy nghorff yn sypyn brau A'i ddwyn i draeth anghysbell Heb ungair; ni wenodd un waith. Deffroais; 'roedd ceiniogau pres Ar ei hamrannau; Amddifad ei chroen o gnawd. Heno mi gofiaf flewiach gwallt Hirddu yn sypiau crin A chactws rhwng esgyrn bysedd. HIRAETH Bûm yno yn hir Yn ôl cyfrif y misoedd; Newidiodd y ddaear liw deirgwaith, Llygaid dieithr a'm cenfydd, Estron lais o bob tu: Mewn bedlam un truan oeddwn, Un truan, diobaith, fel gweddi. Newidiodd y ddaear liw deirgwaith, A daeth Hi yno, fel gweddi, A lleuad surdrom i oedi, A nos. Ac er oedi ohonof Yn hir yn ôl cyfrif y misoedd Yn druan rhwng y priddfeini, Aros mae'r nos ynof, A Hithau fel gweddi, Yn syn fel hen weddi, Ac y mae gwaed ynof. T. GLYNNE DAYIES.