Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhag iddo fynd yn Dduw mewn byd o barch A cholli cytgord bras y porthi pêr, Daeth puJpud hwn i'w dagu megis arch- Gofoennydd "sicrwydd" lle bu ffiolau sêr. Daeth ir fwynhad o oerni'r ffydd ddi-drai Yn drech na'i chwysu. Er cael coler gwyn Ac urddas ystrydebau'r Oen di-fai, Fe werthodd ef ei weledigaeth brin. Ac yn llê gofyn beth yw'r nos a sail Holl dragwyddoldeb gwyllt yr oesau heirdd, Ymgrymodd hwn yn ufudd 'lawr i gael A gafodd o'r Eisteddfod, bedd y beirdd. Yn rhwysg ei fri, troes nefoedd hwn yn faw. Maddeuer iddo, feirdd yr oesau ddaw. DYLAN THOMAS Er i fywyd Lechian yn ddeniadol drwy'i fron, Ang-hofiodd, Fel y mae'r nos yn anghofio cân yr haul, Sut y gall dyn droi'n drindod Ymysg cymaint o aroglau cegid. Ni allai faddau i'r nef ei noethni Mewn oes o fwg a phop. Cododd geiriau Ac ysgwydasant yn ei wyneb Eu llygaid barfog. Yn ddall dan olau Cymerodd ei bin; eithr gwell oedd ganddo Ei glywed ei hunan yn siarad. A neges Y bregeth hon yw ei bod yn beryglus-fooenus I lanc fynd yn ŵr.