Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae f'ymennydd wedi caca ar fy meddwl. Peidiwch â becso; mi allaf glirio'r stwft. Fy mod i'n rhydd sy'n bwysig 'n awr, Yn rhydd i ganu'n rhydd, yn rhydd Os mynnwch chwi, yn rhydd i gaca ar fy meddwl. Mochyn o faban modern Sy'n gollwng dagrau a sisal-gân Rhwng brwyn y dyddiau modern, Heb vmoeri yn lluwch llynedd eithr Yn heddiw y ffatri mwg a'i harddwch aur, A chwerthin, Ha, Ha, a chwerthin, Ha, Ha, A chwerthin rhyfel arall yn y gwynt. Minnau 'rwy'n cyrraedd cyíandir newydd Lie y byddaf yn bvthol-tyw gyda'n gwragedd .A chyda miliynau mawr o'm plant. Ie, ie Na wrthodwch fi. Bydd, wnth gwrs, beth petruster yn fy llais, a hyder Am imi rodres-ymryddhau o groth fy mam, Gan boeri'n boeth ar sug y dyddiau gynt, Dyddiau caethiwed wyneb, caethiwed cerdd. Ond hwyliaf n'awr allan i'r byd, Yn ddeilen ar lyn, 'Lawr i'w dywyllwch i ddwyn sawr Fel awel ar frvn, 'Lawr i'w ddefodau i wisgo noethni, Fy noethni llawen gyda Duw. Henwyr, na wrthodwch fi, canys Nid wyf yn ddim, yn ddim Ond adwaith, yn ddim byd Ond adwaith, Er bod Duw heb ei drowsus wrth fy ochr. Caerdydd. BOB! JONES.