Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ai Ti o Dduw a luniodd degwch Y rhosyn gwridgoch? Ai Ti a roddodd winoedd oesoedd Ym mhetalau'r grug, Ac a liwiodd wenau'r cennin A phaent aur pelydrau'r lloer? Ai Ti a greodd arian sarff o Lyfnwy Ar hwyrddydd haf, A throi gorwelion Môn yn gosfrel gwin O dan y machlud? Ai Ti yw'r Un a dry fy Nghymru fach Yn arddwest feddwol? Tydi yw. — Gwelais dy fud artistig fawredd Neithiwr yn oriel Arfon, Pan oedai'r lloer fusneslyd yn y gwagle, A phan oleuaist lampau'r Nefoedd bob yn un. A heddiw eto tyr y wawr yn ffrydlif Dros aeliau Eryri, Fel carnifal beiddgar, A dawnsia Natur ddawns i seiniau Orcestra'r nefoedd. Carmel. Bu imi unwaith ynys deg ei phryd, A dawns y don o gylch ei gynau llaes; Yr haul yn hidlo'i aur ar daen drwy'r dud, A lloer y nos yn arian dôl a maes. Arail y preiddiau oedd ei balchder gynt, Hwsmonaeth a chymdogaeth dda mewn bri; Ceinciau y crwth yn nof io yn y gwynt, Ac odlau beirdd ar dannau'i tihelyn hi. Daeth iddi adwyth. Dryswyd cordiau'r gerdd Gan ru a rhoch estronol heriol haid; Ysodd y cadau brennau'r winllan werdd, A mangre'r mill sydd heddiw'n lludw a Uaid. Ond er yr archoll, er y coll a'r cam, Mae nwyd a gyffry'r marwor eto'n fflam. Lerpwl. GLYN ROBERTS. Y TIR COLL COLLWYN.