Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bûm mewn nefoedd dwt Ar las brynhawn, a'r gorwel crwn Yn chwyddo'n gaer o'm cylch, a'r ddafad Yn pori ar rimyn y crochan: Ynddo, gwingwn yn ferw ddedwydd Yng ngwres y tân gwanwynol. O ddedwyddwch bod tu allan ac uwchlaw! Uwchlaw calon a byd clöedig. Ni fedrai mwyach na'r dagrau na'r hwteri Ferwino'r synhwyro tangnefeddus. Trwy'r adwy gwelwn ruthro lletchwith y gwartheg Wrth ffoi o frath y cŵn; gwelwn Ddyn yn lleddfu ei gur, Cur o'u carnau a'u dannedd, ag eli 'r weithred A oedd iddo'n gyfarwydd a boddus, Chwerddais a thynnu'r perthi'n ddiogelwch draenog 0 gylch fy mod crwn, hyderus. Ond buan, trwy'r bwt, tiyTwanodd saethog lygaid Pawb a garaf ac a'm câr, Pob Araíl sydd yn pennu ffiníau Fy mod i fel yr wyf, Pob Arall yr wyf innáu 'n rhan o'i gnawd a'i fuchedd, Tydi a minnau a phob dyn. Yng ngwres y tân gwanwynol, toddodd y rhithiau cwyr: Syrtihiodd yr adenydd gwawn a harddwch fy ehedeg I drofowll llosg ein dolur dynol ni. Ond sefais yn hyderus, Ac estyn i'r fflam fy nghalon frau, agored. Ton Pentre. GARETH ALBAN DAYIES. Y GWIN (Er cof am y Parchedig T. Ofcchwy Bowen, a oedd wedi bod, pan fu farw yn ddisyfyd Rhagfyr 27, 1948, yn wcinidog am chwarter canrif ar Eglwys Towyn Ceinewydd) Mae Orchwy? Ni ddaw mwyach-hyd heol I'r Towyn gyfeillach: Heno a wnaeth oedd canu'n iach Am y gwin sy'n amgenach. EUROS BOWEN.