Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAEARYDDIAETH DAEARYDDIAETH I BLANT, gan Gwyn M. Daniel. Llyfrau'r Castell, Tt. 65. Pris 4/ Yn sicr, derbynnir y llyfr hwn â breichiau agored. Efallai yr egyr gyfnod newydd i lawer o'n hysgolion. Y mae ei weledigaeth yn glir a'i dechneg yn arf grymus er sylweddoli'r am- can mewn golwg. Gwerthiawrogwn yr ymdrech a thaiwn deyrnged i bawb a fu'n gynhorthwy i agor y drws newydd hwn. Credaf fy mod yn iawn pan ddywedaf mai prif nod yr awdur yw trin Daearyddiaeth, ei syniadau, a'i geirfa fel un cyfrwng-ymhlith llawer eraill-i gynorthwyo'r plentyn i feis- troli'r iaith Gymraeg, a cherdded i mewn i'w etifeddiaeth. Nod digon dilys ac iach yw'r syniad nad Daearyddiaeth fel pwnc ar ei ben ei hun sydd bwysig, ond tyfiant personoliaeth y plentyn mewn cytgord â'i amgylchedd, gan roddi i'r gair hwn ei arwyddocâd llawnaf. Nid dyna'r cyfan. Cred Gwyn Daniel fod i'r llyfr werth arbennig i ardaloedd Seisnig Cym- ru, ac i raddau helaeth y mae wedi trefnu'r llyfr ar sail y ddamcaniaeth honno. Dyma a ddywed y pamffled ar 'Ddysgu Iaith yn yr Ysgolion Cynradd' ar fater y ddwy ,aith:­"Os mai Cymraeg yw'r famiaith, y mae'n amheus a ellir disgwyl i'r plant fagu digon o feistrolaeth ar Saesneg i allu elwa ar addysg a roddir yn gyfangwbl drwy gyfrwng yr iaith honno." Os yw hyn yn wir, y mae'n un mor wir os cyfnewidir y ddau air Cymraeg a Saesneg; ac amcan Mr. Daniel, dybiwn i, yw cael y Gymraeg yn gyfrwng yr holl add- ysg yng Nghymru, hyd yn oed "yn ardaloedd Seisnig Cymru." Hynny yw, er mai Saesneg yw iaith vr aelwyd, amcenir at wneud y Gymraeg yn ganolbwynt holl waith yr ysgol. Felly, rhaid nad yw'r Weinyddiaeth Addysg yn hollol iach yn y cyswllt yma, neu ynteu fod yr awdur yn seilio ei ddamcaniaeth yn or- Haycastle Cross, Hwlffordd. modol ar gynhesrwydd ei galon at Gymru, ac wedi anghofio seicoleg tyfiant meddwl y plen- tyn. Gwn y rhoddir i'r gair 'mamiaith' weith- iau ystyr eang iawn, er dod dros yr anawster ter yma. Ond i mi y mae anwybyddu iaith yr aelwyd, a dweud mai y famiaith yw hónno a siaredid gan eiin cyndeidiau yn ymylu ar 'special pleading.' Y peth pwysig yn yr ys- gol yw personoliaeth y plentyn a'i adwaith i'w amgylchedd. Paham, tybed, y dewiswyd y wers gyntaf a'i chynnwys yn ymdrin ag Evaporation and Condensation' ? Onid gwell fyddai cydio yn niddordeb uniongyrchol y plentyn yn ei gar- tref? I blant y wlad byddai tudalennau 35-37 yn llawer gwell agoriad, os gwir y ddamcan- iaeth seicolegol ar y pwnc. Yn wir, prin y medraf ganfod unrhyw egwyddor sylfaenol yn rhedeg trwy dyfiant y llyfr fe] llyfr daearydd- iaeth. Syml a diddorol y lluniau, er y byddai ych- ydig o liw yma ac acw yn well na'r du a gwyn dibaid. Hwylus hefyd y caneuon actol a'r farddoniaeth a gyplysir â'r gwaith, er rhaid cyfaddef fod mwy o fwlch nag a ddylai fod rhwng yr eirfa ddaearyddol a'r eirfa a geir yn rhai o'r dyfyniadau. Teimlaf mai defnydd- iol hefyd yw'r nodiad ar yr hyu sydd yn of- ynnol i wneud y llyfr yn Uwyddiant, sef rhoddi pwyslais ar waith llafar, yna darllen o'r bwrdd du, ac yn olaf ysgrifennu ar lyfrau. Dyma arwydd o fawrfrydigrwydd, oblegid er dilyn y cynllun hwn, nid rhaid prynu ond un copi i'r athro, yn lle un i bob plentyn. Bron na ddywedwn fod hyn ynddo'i hun yn ddigon i alw sylw at y llyfr a'i awdur. Ed- rychwn ymlaen yn eiddgar am weld y ddau lyfr arall a nodir yn y rhagair. TREVOR J. PHILLIPS.