Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRAMAU SAITH DRAMA. Anna Percy Davies. Tt. 52. Gwasg Aberystwyth. Pris 2/6. Purion peth fyddai disgrifio'r dramâu a gyn- hwysir yn y casgliad hwn fel dramâu byrion, oherwydd y maent yn wir yn fyrion iawn, fel y gellir deall wrth sylwi fod saith drama yn gynwysedig o fewn yr hanner can tudalen. Gellid eu dosbarthu fel 'curtain raisers' heb wneud cam â hwy. Eithr gellir dweud ar ben hyn fod y casgliad yn un defnyddiol a diddor- 01. Gresyn, er cymaint y cwyno gan feirniaid drama yng Nghymru heddiw yn erbyn dewis cegin, neu gegin orau yn olygfa o hyd ac o hyd, mai dyna a wnaed ym mhob un o'r dramâu hyn Dywedir yn y rhagair nad oes eisiau fawr o lwyfan yn yr un ohonynt, eithr teimlaf, os yw drama'n werth ei chynhyrchu, y mae'n werth ymdrafferthu â'r llwyfannu, a cheisio creu 'rhith' orau y medrir. Prin y gellid disgwyl llawer o ddyfnder ac angerdd o ddramâu mor ysgafn eu cynllun; a gorffwys eu rhagoriaeth yn hytrach yn y cym- eriadau byw a ffraeth, ac yn yr ymddiddanion sydd weithiau'n ddoniol, ac yn am, yn fachog. Haycastle Cross, Hwlffordd. GWYDDONIAETH HANES DATBLYGIAD GWYDDONIAETH, gan Rhiannon a Mansel Davies, Gwasg Prifysgol Cymru, 1948. 4/6. Y mae ar gael nifer o gyfrolau Saesneg cyn- hwysfawr sy'n delio â hanes twf gwyddoniaeth yn gyffredinol, a nifer hefyd sy'n trafod tỳfiant canghennau arbennig o wyddoniaeth. Yn ych- wanegol at hyn, y mae at ein gwasanaeth am- ryw o gyfrolau Saesneg poblogaidd a rydd inni stori datblygiad gwyddoniaeth mewn iaith an- nhechnegol ar gyfer darllenwyr heb ryw lawer o wybodaeth fláenorol o'r pwnc. Ymysg y teip olaf gellir nodi: 'A Short History of Science up to the Nineteenth Century' (Singer), 'A Shor- ter History of Science' (Dampier), 'The Growth of Physical Science' (Jeans) a 'The Road of Modern Science' (Reason), yr olaf ar gyfer bechgyn a genethod deallus. Fe'n sicr- heir fod argraffiadau o'r llyfrau hyn yn dilyn yn ebrwydd wrth gwt ei gilydd, a dengys hyn Y mae'r ddeialog yn fyw iawn, a'r dafodiaith yn drawiadol. Y ddwy ddrama a hoffaf fwyaf ydyw 'Troi Dalen' a Ond Wfft Mor Ddiflas.' Fel dramâu i gychwyn cwmnïau dibrofiad ar eu gyrfa, y mae'r casgliad hwn yn addas iawn, a dengys yr awdur adnabyddiaeth dry- lwyr o'r natur ddynol. Hoff ganddo, y mae'n amlwg, bortreadu merched rhagor bechgyn, oherwydd dwy yn unig o'r dramâu hyn sydd yn cynnwys rhannau i fechgyn. Er hwylused dramâu i ferched yn unig ar gyfer, dyweder, Clwb Merched neu Ysgol Ferched, y mae'r unochredd hwn yn amharu ar ddefnyddioldeb cyffredinol y casgliad, ac yn tynnu oddi wrth ei apêl i raddau. Yr wyf yn sicr y caiff cwmniau ieuainc hwyl ar berfformio'r dramâu hyn, ac y bydd i aml gynulleidfa fwynhau'r sbri di-wenwyn, a'r wybodaeth sicr a fynegir o ddyheadau'r galon ac o fywyd fel y mae, yn ei gymhlethdod o dristwch a llawenydd. MONA HUGHES. fod nifer y sawl sy'n ymddiddori mewn mat- erion gwyddonol ar hyd a lled y wlad yn cyn- yddu'n gyflym. Y cynnydd aruthrol mewn gweithgarwch gwyddonol a welodd y ganrif hon, ynghyd â'r sylweddoliad clir gan bawb ohonom y gall cymwysiadau gwyddonol fod yn offerynnau tyngedfennol i newid gwareidd- iad er da ac er drwg, yw'r prif resymau am yr ymddiddori hwn. Yn awr wele'r ymgais gyntaf i ysgrifennu cyfrol o'r teip hwn yn Gymraeg wedi ymddang- os, a gwyddom am rai a'i croesawodd â breich- iau agored. Yr oedd mentro ar orchwyl o'r fath yn gryn anturiaeth, ac y mae'r awduron i'w llongyfarch yn galonnog am fedru cyflawni'r dasg anodd o lunio llyfr Cymraeg mor dden- iadol ei gynnwys ar faes mor eang, sef dim Jlai