Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

na hanes un o weithgareddau pwysicaf dyn yn ymestyn dros ddwy fi1 a hanner o flynyddoedd (o Thales hyd at Einstein). Fe gaiff y darllen- ydd cyffredin, a gais wybod sut y dringodd gwyddoniaeth yn araf o ris i ris i'w harglwydd- iaeth bresennol, flas nid bychan ar y gyfrol gampus hon. Fe rydd y ffaith mai dyma'r gyfrol gyntaf ar y pwnc yn Gymraeg gryn bwysigrwydd i'r gwaith. Nid oes unrhyw gytundeb barn ynglŷn a'r llinellau y dylid cynhyrchu gwaith o'r fath. Gall unrhyw awdur ddewis y dull a fyn, a dig- on yw dweud ddarfu i ffordd arbennig yr awd- uron hyn gyrraedd ei hamcan, sef rhoi braslun byw a chryno o "wreiddiau a thwf y methodau gwyddonol," gan wneud y cynnwys "yn ddeall- adwy heb unrhyw wybodaeth flaenorol yn y maes hwn." Y mae'r gyfrol yn gyforiog o wybodaeth ddeniadol a rydd bictiwr clir inni o ramant hynt y gwyddonydd ar hyd yr oesoedd, gan symbylu'r darllenydd i ddilyn ymlaen â'r astudiaeth. Fel y dywed yr awduron yn y rhagair: "Dewiswyd pynciau arbennig i ddangos y llin- ellau ar hyd y rhai y datblygodd gwyddon- iaeth, ac er mwyn cadw'r hanes o fewn terfyn- GRIFF'S AM LYFRAU NEWYDD AC AIL-LAW Danfonwch eich ceisiadau atom ni A ddarllenasoch y llyfrau a ganlyn?- GWYRLLEN Aneirin Talfan Davies 8/6 CEFN YDFA Geraint Dyfnalit Owen 7/6 ATGOFION SENEDDOL: Arglwydd Macdonald 8/6 PRISON SONNETS: T. E. Nicholas 5/- THUS SPAKE PROPHETS: Islwyn ap Nicholas 5/- j GRIFFS LTD., 4, CECIL COURT, LONDON, W.C.2. nau rhesymol fe fu'n rhaid gadael allan ad- rannau cyfan." Bu'n rhaid, wrth gwrs, gywasgu'r adrannau eraill hefyd, a thasg anodd ydoedd trefnu hyn mor ddeheuig a chadw cymesuredd y darlun. Ond, er yr holl gwtogi, bu'r awduron yn ddigon cyfrwys i gynnwys bywgraffiadau bychain ar y prif wyddonwyr a'r hanesion traddodiadol sydd nghlwm â hwy, gan nodi ffeithiau diarffordd ac od i dynnu sylw a chadw'r diddordeb. Er eng- hraifft, diddorol yw darllen (a) y gellid trochi Newton yn hawdd mewn piser chwart pan aned ef, (b) fod Cavendish "yn hynod o swil yng nghwmni pobl eraill. Byddai'n rhaid i'w for- ynion gadw at risiau'r cefn rhag digwydd iddo eu gweld; ni ddywedai fyth air wrthynt, ond ysgrifennai ei ofynion ar bapur," (c) i Thomas Young ddarllen y Beibl ddwywaith drwyddo cyn bod yn bump oed; (ch) i Cajal un tro "dreulio ugain awr heb adael y microscôp yn gwylio un gell fechan", (d)mai Charles oedd y cyntaf i esgyn mewn balwn wedi ei llenwi â hidrogen. Bydd yn newydd i rai (a) mai Omar Khyyâm a fu'n gyfrifol am ddarganfod y theorem binomial; (b) mai syniadau benthyg o lyfr hen longwr sydd yn llyfr enwog Dr. Gil- bert; (c) fod lle i gredu mai copïau o rai a wnaed o'r blaen oedd arbrofion enwocaf Lav- oisier. Y mae hefyd ambell frawddeg a all en- nyn myfyrdod, megis: "cofier, er hynny, na ddylid bob amser dderbvn honiadau'r gwydd- onydd wrth ei waith-bob-dydd fel datganiad o'i athroniaeth yn gyffredinol." Ofnwn i'r awduron ar adegau fwrw dros gof mai ar gyfer y "darllenydd cyffredin" y bwr- iedir y gwaith. Enghraifft o hyn yw'r ffaith iddynt sôn am "ddeddf y cyfartaleddau lluos- og" heb ei hegluro. Fe lithrodd gwall i mewn i d. 121 hefyd; fel hyn y dylid darllen: "Gwel- som ynghynt hefyd y modd v bu Boyle yn gwneud arbrofion ynglyn ag effaith pwysedd ar 'folum' nwy." A ocs croesddywediad rhwng y brawddegau a ganlvn ar d. 94: "Dyl- em gofiio i Sais arall, Alfred Russell Wallace (1823 — 1913), gael gafael ar nodweddion pwysicaf damcaniaeth Darwin, hynny tua'r un adeg â Darwin ond yn hollol annibynnol arno" a "Ni wyddai Wallace fod Darwin wedi dod i'r un penderfyniadau bron ddeng mlynedd ar hungain ynghynt-" Y mae'r frawddeg "offeryn go debyg i'r microffôn yw'r teleffôn" yn un amwys. O'r nifer bach o wallau iaith a lith-