Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wedi gorffen dysgu ei grefît, caiff Tomos le íel melinydd ym Melin y Ddôl, melin fawr, iewyrchus, rai milltiroedd o Rhyd-y-wernen, ac ym Melin y Ddôl y mae am weddiil ei oes. Ryw ddiwrnod, daw merch iíanc brydierth o'r enw Gwen Jones i'r felin a syrth 'lomos dros ei ben mewn cariad â hi, ar un noswaith gwelir ef yn mynd i gyffesu ei serch at Gwen wrth ei mam ac i ofyn caniatâd i fynd a hi am dro! Rhyw garwriaeth lled sydyn yw hon ac y mae elfen o sydynrwydd ymhob carwriaeth drwy'r llyfr ag eithrio carwriaeth Twmi a Mati sy'n ddigon araf i blesio'r mwyaf pwyllog. Wedi ymbriodi, â'r pâr iíanc i fyw i'r bwthyn bach dymunol sy'n gartref iddynt nes i feistr Tomos farw ac i yntau gael cynnig ar y felin a'r siop a'r celfi am bris rhesymol iawn. Tomos Prys, Melin y Ddôl, ydyw mwyach, a daw'n ddyn cefnog llewyrchus, yn gallu anfon ei ferch dlos i'r ysgol yng Nghaer a byw fel gŵr bon- heddig. Wedi gorffen yn yr ysgol, daw Ann yn ôl i ofalu am siop ei thad, ac o hyn ymlaen y mae hanes Tomos a'i wraig yn mynd yn ddim ond cefndir i stori Ann. Hi yw'r cymeriad pwysig bellach ac y mae'r un llwyddiant rhy- feddol yn dilyn ei hymdrechion hi yn y siop ag sydd wedi dod i ran ei thad. Yn wir, tipyn yn undonnog yw'r stori hyd yma gan mor ddi- dor yw llwyddiant a hapusrwydd v prif gymer- iadau, ac nid ydym yn llwyr sylweddoli mai bodau dynol o gig a gwaed ydynt. Hynny yw, y mae portreadu cymeriad yn wan yn y rhan hon o'r stori. Er bod y nofel yn ddigon di- ddorol drwyddi nid yw'r cymeriadau'n dechrau byw nes inni gyrraedd hanner y ffordd, a'r peth mwyaf diddorol i mi yw'r disgrifiad o ganu unsain Capel Uchaf ac ymdrechion Tomos Prys yn ei swydd o arweinydd y gân i ddysgu'r gynulleidfa i ganu yn y pedwar llais. Wedi i Ifan ddod iddi a drvsu tipyn ar rediad esmwyth bywyd Melin y Ddôl mae'r stori'n gwella, a daw'r cymeriadau'n ilawer mwy credadwy ac yn Uai o gysgodion tlws yn symud ar ganfas dymunol Sir Ddinbych wledig ganrif yn 61. Pan yw Ann yn ugain oed cyferfydd ag Arth- ur Vaughan a syrth y ddeuddyn ifanc mewn cariad ar yr olwg gyntaf. Eithr nid yw Arthur yn ysgrifennu ati, ac y mae ei ddistawrwydd yn peri i Ann gredu nad yw'n ei charu gan na ŵyr fod ewyrthr Arthur wedi mynnu addewid gan- ddo i beidio ag ysgrifennu nes gorffen ei gwrs GWASG ABERYSTWYTH J. D. LEWIS A'I FEIBION, CYF. + ARGRAFFWYR a CYHOEDDWYR + Y WASG sy'n cyhoeddi'r LLYFRAU GORAU trwy gydol y flwydyn EIN LLYFRAU I'W CAEL YM MHOB MAN GOFYNNER AM EIN CATALOG DIWEDDARAF + Trwy ymuno â'r CLWB LLYFRAU CYMRAEG fe gewch y llyfrau diweddaraf wedi'u rhwymo mewn Hiain am y pris anhygoel o 2/6 y gyfrol + Pan fyddwch yn Aberystwyth trowch i mewn i'r Swyddfa :— 45, North Parade BEDDFEINI URDDASOL CERRIG, cvnlluniau o £25 i fyny ITHF AEN £40 MYNOR £40 Cludir a chodir yn unrhyw fynwent Defnyddiau o'r ansawdd gorau Crefftwaith o'r dosbarth uchat Gwarentir boddhâd llwyr Anfoner cerdyn am luniau: J. HERBERT EDWARDS, MEMORIAL SCULPTOR, 39, EMPRESS ROAD, WREXHAM (Ffôn Wrexham 2784) (Byddwch mor garedig â sylwi ar y cyfeiriad)