Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

meddygol. Yn yr argyfwng hwn daw Ifan i'w bywyd. Pregethwr ifanc arall-fydol yw Ifan a welsai Ann unwaith a syrthio mewn cariad â hi. Mae ef yn awr yn anfon dau lythyr digon rhyfedd, un at Ann ac un i'w thad yn mynegi ei serch a gofyn am ei llaw. Ni ŵyr Tomos mai unwaith y cyfarfuasai Ann ag Ifan ac yn ei fraw wrth feddwl am y golled ariannol a gaiff os ymedy Ann a'r siop, a'i dicter ohcr- wydd "twyll" ei ferch, mae'n colli ei ben yn deg. Dan ddylanwad cyhuddiadau afresymol ei thad enfyn Ann i dderbyn cynnig Ifan. er mawr bryder i Tomos pan ddaw i'w bwyll a deall y sefylìfa'n iawn. Cred Ann y gall ysgri- fennu eto at Ifan i dynnu'n ôl, ond dywed ei thad wrthi am adduned y Llyn Du a'i dar- bwyllo fod gobaith am gadwedigacth iddynt hwy ill dau yn dibynnu ar iddynt gadw'u gair. Er mai 'Merch Jephtha' yw enw'r bennod hon. o'r braidd y mae sefyllfa Ann a'i thad a'r byw- yd hapus a gaiff Ann gydag Ifan ar waethaf popeth yn ymdebygu i drasiedi mod Merch Jephtha a'i thad. Gwendid yn y stori hefyd ydyw na ddigwyddodd dim hyd yma i ddangos fod adduned y Llyn Du wedi dylanwadu ar Gilwern, Abergafenni. STORIAU O'R NEWYDD. Casgliad o Storiau, wedi eu dethol gan Olwen Llewelyn Walters. Llyfrau'r Castell. 6/ Pan welais deitl y gyfrol hon a rhestr en- wau'r awduron, disgwyliais am gyfraniad o ryw bwysigrwydd tuag at safon y stori fer yn ein plith. Siom o'r mwyaf oedd gweld nad felly yr oedd pethau, ac mai hen ddeunydd a hen ddulliau oedd yma, a'r sgrifenwyr gorau gan amlaf yn ysgrifennu ar eu gwaethaf. Er enghraifft, y mae Mr. Islwyn Williams yma, yn fwy Crwysig na phwysig y tro hwn. I'm tyb i, bydd ef yn taro deuddeg fel arfer; mae'n taro un-ar-ddeg, beth bynnag. Ond y tro hwn nid yw'n taro o gwbl. A barnu wrth y stori hon ni bu datblygiad o gwbl yng nghrefft y stori fer yng Nghymru er y dydd pan ysgrifennodd J. J. William.s 'Cadair Tregaron.' feddwl a chymeriad Tomos Prys. Gorfîen y stori â marwolaeth Tomos ac Ifan a phri- odas Ann a'i chariad Arthur. Perthyn Melin y Ddôl i'r dosbarth a clwir yn Lloegr yn nofelau poblogaidd, ac y mae gan yr awduron y ddawn i lunio stori fwyn, hawdd- gar. Nid yw crefftwaith y penodau yn rhy dda bob amser. Ceir naid yma ac acw yn rhediad y stori a gynrychiolir yn y llyfr gan linell fer ynghanol y bennod, lle y gellid yn hawdd naill ai ail-ddechrau pennod arall neu asio'r rhannau yn fwy celfvdd yn ei gilydd. Mae lletchwithdod y dull yma o adrodd y stori yn taro'r darllenydd yn arbennig mewn pen- odau megis, xii a xxxiii lle y ceir nifer o'r tor- iadau sydyn hyn ar rediad y stori. Gwelais hefyd amryw frychau iaith, megis defnyddio "yr hwn, "yr hon" yn lle'r rhagenw perth- ynol "a", "pan yn sôn" yn lle "pan oedd yn sôn", "tra yn y ty" yn lle 'tra oedd yn y tŷ.' Ni ddarllenwyd y proflenni yn ofalus iawn. Sylwais ar lawer o bethau megis prynnu, elen- ni, ohonni, amyrw, miwn (am 'mi wn'), r'ioed, y'ch (am 'vch'=eich) lle r oedd, wyrews (= 'wyrcws'). CEINWEN H. THOMAS. Y peth anffodus ynghylch y gyfrol hon yw bod yr awduron i gyd yn dibynnu ar ddig- wyddiadau; bodlonir ar ddisgrifiad o'r dig- wyddiadau, heb ymgais at fyfyrdod na dad- ansoddiad. O ganlyniad, pethau heb ddyfndcr ydynt, a'u gwerth yn y cyffyrddiadau bach comig neu sgitlyd sy'n bur amlwg yma. Mae'n ffodus iawn ein bod yn gwybod yn amgenach am Jacob Dafis, Idwal Jones, Islwyn Williams a Tom Parry Jones na'r olwg a gawn arnynt yn y gyfrol hon. Mae'r argraffu yn dda iawn, er bod y clawr yn gwneud imi feddwl am lyfr cyfrifon y dyn- llefrith sy'n galw yma bob bore. RHYDWEN WILLIAMS.