Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU GOLYGYDDOL Y ddawns werin yng nghymru Mae'n ystrydeb ddweud i'r ddawns werin ddiflannu yng Nghymru yn sgil y biwri- taniaeth a ddaeth yn safon beirniadaeth ar fywyd wedi'r Diwygiad Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif. Eto, mae'r ddawns fodern a ddaeth yma dros y flin o Loegr yn boblogaidd iawn, o leiaf yn nhrefydd Cymru, a darfu am lawer o'r hen ragfarn yn ei chylch. Fe'i derbynnir bellach i bob golwg yn rhan normal o adloniant ieuenctid. Ond profiad newydd, chwithig ymron, yng Nghymru yw cael bechgyn a merched ynghyd yn dawnsio hen ddawnsiau gwerin. Dyna a welwyd yn Eisteddfod Gyd- wladol Llangollen eleni. Pa gyfraniad bynnag a ddaw o'r Eisteddfod arbennig hon i ddiwylliant ein gwlad, mae hi'n ddiamau wedi ennyn diddordeb o'r newydd yn y ddawns werin. Gwyddom mai ei chystadlaethau hi yn fwy na dim a fu'n gychwyn sefydlu'r Gymdeithas Ddawns Werin y gellir, mae'n siŵr, ddisgwyl llawer oddi wrthi yn y dyfodol. Y cam a gafodd y ddawns werin yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf yw'r prif reswm fod ein dawnswyr ni ar lwyfan Llangollen megis dechreuwyr wrthi o'u cymharu â dawnswyr gwledydd eraill, yn enwedig gwledydd deau Ewrop, ac o'r braidd y gellir gobeithio gweld ein pobl ni yn ennill y gamp onid awn ati o ddürif i feithrin y gelfyddyd hon, canys celfyddyd yw. A barnu wrth yr hyn a welwyd ar lwyfan Llangollen, gellir dweud fod dau fath o ddawnsio gwerin. Un math yw dawnsio fligurau a all fod yn eithaf syml neu'n wir yn gymhleth ddigon ei adeiliaeth. Mae'r math arall yn cyfleu dehongliad o ryw agwedd ar fywyd, neu hanes, neu chwedloniaeth, neu ddefodau crefyddol gwerin cenedl, megis dawns arobryn yr Iwgoslafìaid eleni a ddehongiai stori troi o werin eu gwlad o galedi a straen caethwasiaeth i rwyddineb rhyddld a'i lawenydd. Perthyn dawnsio gwerin Cymru i'r dosbarth cyntaf; a heb anair ar y math hwn c ddawnsio sydd, fel y dylai pob dawns werin fod, yn hyfrydwch i'r dawnswyr eu hun- ain heblaw i'r edrychwyr hwythau, rhaid addef, feddyliwn, cyhyd ag y bo ein dawns- wyr yn bodloni ar y math yma'n unig, na allant lwyddo byth yn erbyn dawnswyr o'r dosbarth arall. Yr hyn a'm tery i wedi mwynhau'r wledd o ddawnsio gwerin yn Llangollen rai troeon bellach yw ei bod yng ngallu Cymru hithau i ddisgleirio yn y ddawns thema. Pa Ie y mae'r gŵr neu'r ferch a â ati mewn cydweithrediad â chwmni dawnsio i lunio dawnsiau a'u themâu'n seiliedig, er enghraifft, ar storïau o'r Mabinogi a'r hen Ramantau Cymreig, ar fywyd y Tylwyth Teg, ar hen chwedlau gwerin ac ar ddig- wyddiadau mawr yn hanes ein gwlad? Oni allai'r Eisteddfod Genedlaethol ei hun roddi gwobrwyon sylweddol am lunio dawnsiau gwerin Cymreig o'r fath, ac ynghyd â hynny groesawu'r gelfyddyd hon i'w llwyfannau megis y gwnaeth hi â'r ddrama Gymraeg. Yn sicr mae cyfoeth o ddeunydd wrth law yng ngorfíennol bywyd gwerin ein gwlad; a phan fyddo Cymru'n medru dehongli'r deunydd hwn yn greadigol yn nhermau dawnsio, yna nid dechreuwyr fyddwn wedyn ar lwyfan y ddawns werin, ond pengampwyr ar gelfyddyd sydd yn ddysg ac yn ddiddanwch. E.B. Nodyn' Rhwym arnom ymddiheuro i'n cyfranwyr a'n darllenwyr am nad ymddang- osodd rhifyn o'r FFLAM ers mis Awst diwethaf. Baich mawr o waith ar ddwylo ein hargraffwyr a cholli cysodwr medrus yn y Gymraeg oedd yr achos am hyn. Hyderwn allu ymddangos yn fwy cyson reolaidd o hyn yrnlaen.— Gol.