Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Simboliaeth Gan BOBI JONES Y mae Simboliaeth erioed wedi bod yn rhan o'n treítadaeth ni yng Nghym- ru. Ac nid oes eisiau mynd yn ôl yn gyn- harach na Llywarch Hen i brofi hynny: Y ddeilen honn, neus kenniret gwynt, Gwae hi o'e thynget! Hi hen; eleni y ganet. Wrth gwrs, y mae'n llenyddiaeth ni wedi cynniwys elfennau eraill heblaw hon. Ond o dro i dro pan gododd chwant, nid oedd ofn simboü ar ein llenorion, gan fod hynny'n angenrheidiol ac yn anymwybod- ol iddynt. Eto dywed Gareth Alban Davies yn rhifyn Awst o'r F flam: "Gadewch inni ddatblygu Simboliaeth a'i himpio ar ein traddodiad," ac yr oedd wynt o awgrym drwy'i draethawd benibaladr mai glwys o beth fyddai cyflwyno mudiad Ftrengig 'modern' i'n traddodiad fel awel fíres i gynhyrfu'r dyfroedd llonydd (a defn- yddio cymhariaeth hynafoì i siwtio'r ach- lysur). Yn niwedd y ddeunawfed ganrií a thrwy'r ganrif ddiwethaf, hanfod y fardd- oniaeth rydd i gyd oedd Simboliaeth, a chvrhaeddodd y mudiad ei uchafbwynt gyda'r cyfrinwyr Ann Griffiths ac Islwyn. Dywed W. J. Gruffydd: "Yr hyn a fedd- ylia Islwyn wrth 'farddoniaeth' yw yr ag- wedd meddwl hwnnw sydd yn gallu creu simibolau a'u harfer i gyfleu'r sylwedd mawr. Iddo ef simboliaeth artistig yw 'barddoniaeth' rydd, am ei bod yn traws- íamu synnwyr a rheswm, yn gallu rhoi mynegiant i'r hyn sydd uwchlaw gallu synnwyr a rheswm i'w fynegi." Ac yn nechrau'r ganrif hon cawn J. Morris-Jones, T. Gwynn Jones a T. H. Parry-Willmias, hwythau i raddau helaeth yn Simibolwyr, yn ystumio tipyn ar y mud- iad ac yn ei ddatblygu. Onid simibol yw Melin Trefin, ac onid simlbol ywBlodea- wedd? Y mae Gymru wedi ei lfyncu gan Simboliaeth. Yn ddiweddar, sut bynnag, dechreuodd y mudiad lesgáu, a'r unig ffordd, hyd y gwelaf i, i anadlu bywyd newydd iddo yw trwy ganu 'barddoniaeth ddiwydiannol. Mae'r hen simbolau—gwaniwyn, tân, oen, haul, ac yn y blaen wedi gwisgo'n ddy- bryd. Trwy eu gorddeínyddio fe gollas- ant eu hystyrion sylweddol.. Yr unig ffordd amdani bellach yw dewis geiriau a delweddau a chanddynt ystyr bendiant drawiadol i ddynion yn byw yn yr ug- einfed ganrif, simbolau newydd sydd felly'n Uai tueddol i gael eu hysgaru o'u sylweddau. Ac ym myd diwydiannaeth a seicoleg y gellir cael gafael ar y rheina. Yn Theomemphus y mae Pantyceliyn yn defnyddio'r gair 'tân' fel simibol i fyn- egi nwyd, eithr er bod y tân yn eithaf mawr ar y dechrau, erbyn y diwedd mae wedi colli cryn lawer o'i ddisgleirdeb, ac nid yw'n fwy na fflam fach, fach. Yn yr un modd y mae 'storm, anialwcn, cymyl- au, gwaed' oll wedi oolli'u hystyr. Sudd- odd yr iaith o dan lif Simboliaeth, ac nid yw wedi gallu codi'i phen hyd yn oed eto. Trueni na chofiodd Pantycelyn eiriau Matthew: "Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, mai am bob gair segur a ddyw- edo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. Canys wrth dy eiriau y'th iwnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondem- nir." Wrth gwrs, ni roddaf yr holl fai am les- gedd yr iaith ar Simiboliaeth. Dweud yr