Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwlad Yr Addewid Gan JOHN GRIFITHS "YN nesaf Stiward, caewch y drws Yn nesaf, dyma ti'n cyflwyno cynrychiolydd yr Unol Daleith- iau." Am y tro cvntaf yr oedd Pafiliwn mawr yr Eisteddfod yn ddistaw. Yr oedd yr Arweinydd yn gwybod ei waith pan ddew- isodd gael Eluned Maddocks i sefyll o flaen y dyrfa alltudion oedd yn britho'r rhesi seddau wrth gefn y llwyfan. I fedd- wl mai Cvmraes oedd y fenyw dal, landeg hon, oedd yn cerdded mor hovw at y meic- roffon o flaen y pen llanw wynebau! "Annwyl Annwyl gyfeillion, 'does dim gyda n i weud" — O afiaith! Cym- raeg! "Dim ond gair bach naturiol." (Yr ocdd yr 'r' yn Americanaidd, ond pa ots), "bod dim un lle yn y byd i fi Ie? "fel Abereilian." Ardderchog! "Pentre bach Cymraeg ar lan y môr. Ac 'rwy'n dweud v gwir i chi, 'rwy wedi bod mas o Gymru twenty years, ond mae'r breudd- wyd wedi aros gyda fi yr holl amser Yn anghof 'nawr yr acen Americanaidd, y wisg or-berffaith. ty mod yn cael dod nôl yn y pen-draw at y 'mhobol, at yr hen gapel, ie, mynd nôl i'r hen bentre'n gyfangwbl." Aeth rhai eiliadau cyn i'r dyrfa ddod at ei hunan a sylweddoli bod yr araith drosodd, a bod y rhith-dywysoges wedi ymgolli ymhlith ei cihyd-alltudion. Yi oedd y Cymry Cymraeg yn y gynulleidfa wedi cael gweledigaeth newydd. wedi profi o'r peth prin hwnnw, gwir deimlad! yn cael ei ddatgan yn ddi-rodres o flaen tyrfa o ddeng mil 0 foobl. Ac yr oedd y gwranda- wyr eraill wedi dotio at ei gwisg ffasiynol. Yn wir dylasid llongytarch yr arweinydd fod un o'n seremoniau Eisteddfodol wedi dîbennu ar y fath gleimacs. Dyma'r curo dwylo yn gorffen a llais yr arweinydd yn gweiddi'r gystadleuaeth nesaf. A phawb yn setlo lawr at fusnes stwrllyd Eisteddfod Genedlaethol. Yn y bore fe aeth Eluned Maddocks i'r trên i ddychwelyd i'r Gorllewin, ar ddirwT- nod o haf tesog, a'i dychymyg ar dân ar ôl profiad fel hwnnw ar lwyfan yr Eistedd- fod. Er y bu cyffro teithwyr yn mynd a dwad i'r cerbyd, suddo i mewn i rywdath o gilfach yn ei meddwl a wnaeth hi gan bipo allan ar y wlad annwyl oedd yn gwib- io heibio. Yr oedd popeth mor hoff, mor dwt, y go vel nid yn unig yn agos ond yn agos-atoch, ac yr oedd gweld ffermdy bach gwyn ambell dro yn codi ias hyfryd drosti i gyd, fel petai'n gwrando ar Gerddorfa Philharmonig New York eto. O pwy allai feddwl am ddychweyd at ddiffeithwch Iliwgar anesmwyth y bywyd American- aidd? Ac yn sŵn yr olwynion â'u rithm melys, yr oedd megis thema'n datblygu yn ei gweledigaeth, mai dyma wlad yr add- ewid eto, yr addewid a wnaethant, hi a'i g\\T, ugain mlynedd yn ôl, wrth hwylio i ddechrau bywyd newydd, y byddent yn bwrw diwedd eu hoes yn yr hen bentre. Dim ond ychydig o ddiwTnodau y bu hi gartref gyda 'i mam cyn teithio i'r Eis- teddfod. Ac yr oedd hi'n dychwelyd yno yn awr â gweledigaeth newydd, a'r geir- iau'n ffusto'n unsain â'r trên, "reteiro mewn tair blynedd, reteiro mewn 'tair blynedd tair blynedd Cafodd gwmni diddisgwyl ar y bws i Abereilian o Aberteifi, hen gyfaiU ysgol a ddaeth i mewn ar ffnwst pan oedd y bws ar fin cychwyn. "Wel, Luned! I was wondering when I was going to see you.. But you went away so suddenly to the Eisteddfod. I'll be up to spend the day