Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

beth yn ei gofidio. Nid peth hawdd oedd gwrthod y cyfle i agor ei chalon at ei gŵr, ond yr oedd y ,profiad yn rhy agos a hithau heb fod yn sicr eto nad rhywbeth dros dro ydoedd. Cymerodd yntau ei fodloni ar ei hesboniad mai'r gwTes oedd wedi ef- feithio tipyn arni. Aeth y dyddiau heibio, a'r dau yn eu tro yn cofio am Helen a cheisio dyfalu pa mor bell y byddai'r llong o New York, ond heb ddweud llawer mwy na hynny chwaith; yntau gan gredu mai hiraeth syml ar ôl ei merch oedd yn blino Elun- ed, hithau yn teimlo'i phrofiad yn twrn ar ei chalon ac eto'n disgwyl bob nos y byddai wedi mynd erbyn y bore. Mae'n rhyfedd fel y bydd dyn yn codi materion pwysig ar achlysuron digon an- nheiiwng weithiau. Er enghraifít, yr oedd Eluned a Wil yn y gegin, yn gorffen sychu llestri pan ofynnodd Eluned y cwestiwn a wnaeth y newid ma\\T yn eu bywyd. "Wil," medde hi'n sydyn, "fe ddyle fod yn bosibl inni reteiro yr haf hwn, oni ddyle?" "Wyt ti'n gall?" oedd yr ateb syn, "'dyw'n harian ni'n ddim at y wlad hon." "Nid at y wlad hon 'rwy'n feddwl." Edrychodd arni fel pe pai wedi colli arni ei hunan, ac yr oedd peth o'r drwg- dybio yn ei lais, pan ddywedodd nad oedd yn ei deall yn iawn. Ond yr oedd hithau wedi ddod i ddeall ei hunan, a chanddi'r weledigaeth mai dyma'r foment yr oedd ei hapusrwydd yn dibynnu arni. Nid mor anodd oedd cael ganddo ail-gydio yn yr hen freuddwyd o fynd yn ôl i'r hen wlad —rywbryd. Ond eleni eleni! Ond yr oedd ei hangerdd yn ysgubol, a syil- weddolodd yntau fod ei wraig am y tro cyntaf yn ei bywyd yn ymylu ar waflgoi- rwydd. A chofiodd am ei eiriau ei hunan pan aeth i'w chysuro ar ôl ffarwelio â Helen, "dim ond ni'n dau nawr." Ie, ac yr oedd yn dda eu bod nhw'n ddau het- yd. "Luned," medde o'r diwedd, am dy weld ti'n iawn ydw' i. Fe ga' i waith. Ond amdanot ti. Beth elJi di wneud co?" Am y tro cyntaf fe wenodd Eluned. "Wil bach, fe fydda' i'n hapus os na cha' i ddim arall i'w wneud a dyma chwarddiad fach ysgafn nerfus yn crychu ei hwyneb "ond tendio gardd." Yn union wedyn, yr oedd yn editar ganddi ei bod wedi dweud hynny. Fe fyddai ceisio esbonio'i dameg yn andwyo popeth. Pwy all esbonio dameg heb an- dwyo'r effaith? Ond ni bu'n rhaid esbon- ar y cnwc, gydag Ezer, ei hen gyfaill io. Yr oedd Wil wedi dechrau sôn am hela, Y PERTHI GWYN Yn nhrymder oer y gaeaf Daeth Haw i osod gwisg, Rhag stormydd mawr, dros trigau'r llawr,— Gwisg wen dros foelni rhisg. Daeth haul y Pasg i blygu A rhoi 'nghadw'r hirwisg wen, Ac yn ei He, fe roes y ne Wisg flodau'n gynnes len. A'r perthi gwyn mor llachar, A haul y Pasg mor twyn, Y "Wisg Ddiwniad" gan y Tad A welswn ar bob llwyn. Dr. G. Ap-VYCHAN JONES.