Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eddie Parry Gan D. R. DAVIES, Aberdâr "GWR y wên a'r hwyl" — dyna ddyw- edodd un newyddiadur wrth gyf- eirio at farw Mr. J. Eddie Parry, Llan- elli, ym mis Eb/ill, 1948. Yr oedd yn ei ddisgrifio i'r dim, ond rhaid cofio, gyda llaiw, fod gan y diddan Eddie Parry ei ofid yn ogystal. Ym marw Jason Thomas, Idwal Jones ac Eddie Pany, ;collodd ein gwlad ddram- âwyr, dau .dhonynt dan ddeugain oed, a'r lla'.l, Eddie Parry, yn ddeuddeg a deu- gain. Nid oedd yr un ohonynt wedi rhoi inni ei waith gorau. Angau cynnar fu'n gyfnfol am hynny, cyn belled ag yr oedd ctau ohonynt yn y cwestiwn, ac efallai mai afiechyd a fu'n 'gyfrifol am y diffyg ym mywyd y llall. Beth bynnag am hynny, ni all unrhyw wlad, ac yn enwed- ig gwlad fach fel Cymru, fforddio colli ei dramawyr cyn iddynt gyrraedd eu llawn dŵf ac aeddfedrwydd dramaol. Ein bwrad yw sôn am Eddie Parry fel dramawr, ac felly nid oes rhaid cyfeirio, wrth basio, ond at ychydig ffeithiau ei fywyd. Ganed ef yn Nhycroes, ger Rhydaman, yn y flwyddyn Í895. Aeth i Ysgol Ramadeg Llanelli, ac oddi yno i Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Daeth yn athro ar ôì bod yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Yr oedd yn L.R.A.M. mewn areithyddiaeth. Bu wedi hynny yn brifathro i ganolfan ar- bennig i fechgyn, a phan gauwyd y lle. daeth yn aelod o staff Ysgol Eilradd Stradey, Llanelli. Ar ôl oes o afiechid a nychdod hir yn yr ysbyty, bu farw ym mis Ebrill yn ddeuddeg a deugain oed. Er ei holl ddioddef, nid anghofiodd y ffordd i chwerthin. Dyna rinwedd ar- bennig a oedd yn perthyn iddo—gŵr y wên a'r hwyl. Ysgrifennodd ddramâu lawer; bu'n eu llwyfannu. Nid oedd yn actiwr gwych, ac nid oedd rhaid i neb ei atgofio o hynny. Cyfansoddodd ganeuon ysgeifn, geiriau a cherddoriaeth, a chanodd hwynt i'w gyfeiliant ei hun. Medrai ddiddori cynulliadau am oriau, a bu galw mawr am ei wasanaeth. Yr oedd yn ddarlled- wr llwyddianus, yn gyfansoddwr rhag- lenni ysgafn ar gyfer y radio; a bu ei rag- lenni, "Sut Hwyl?" yn weddol boblog- aidd. Er ei gaethiwo i'w wel,y am fisoedd cyn i'r diwedd ddyfod,—ac nid yn llech- wraidd y daeth-ysgrifennai Eddie'n ddidor. Ym mis Rhagfyr, flwyddyn yn ôl, darlledwyd rhaglen ysgafn a luniwyd ganddo ar wely angau-rhaglen ysgaifn. Yr oedd hynny'n nodweddiadol ohono hyd y diwedd. Yn ystod wythnosau ol- af ei fywyd, ysgrifennodd eiriau a cherdd- oriaeth. Ysgrifennodd hefyd raglen new- vdd yn ymdrin â stori 'Y Ferch o Gefn Ydfa.' Fe gyfeiriwyd fwy nag unwaith at y ffaith mai Eisteddfod Genedlaethol Pont- ypwl, 1924, a ddaeth ag ef i sylw fel buddugwr yn adran ddrama'r Eistedd- fod. Rhaid cofo, er hynny, iddo ennill gwobr yn Eisteddfod Rhydaman, ddwy flynedd cyn hynny, am dair drama fer i'w chwarae gan blant Ysgolion Canol. Enwau'r dramâu oedd 'Gogerddan,' sy'n delweddu hanes y gân 'I <Blas Gogerdd- an'; 'Gwirionedd,' drama un act ar ffurf alegori, rhywbeth yn debyg i 'Every- man'; ac 'Yr Inspector,' comedi fer yn nhafodiaith Sir Gaerfyrddin a'r olygfa yn y trên. Y mae un o'r dramâu hyn yn addawol dros ben. Yn bendifaddau, Eisteddfod Pontypŵl a ddaeth ag ef i sylw fel dramawr. "La Zone" oedd drama fuddugol yr Eistedd- fod. Yr oedd yn gystadleuaeth newydd