Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Babi Ni Gan D. JACOB DAFIS Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno, Dagrau ddaw yng nghynt. Yn fy stumog yn gwynfanus Mae y gwynt. ODD Syr John yn sharad am wynt. Wydde fe mo'i eni. Ta fe wedi gweld y'n babi ni! A gweud y gwir wrtho chi, na'r babi rhifedda ariod. Byth oddi ar y dydd pan ganed e dim ond lleíen a sgrechen a sgrechen a lleíen mai e wedi neud. Fe gysgith amibell waith ar ôl i siglo fe, a stwffo digon o fwyd lawr i gorn gwddwg e; ond ar ôl iddo fe gysgu rhaid ichi fod yn ofalus ne fe fydd yn shŵr o ddihuno. Irmi'n gorfod mynd mas drws nesa i fbesweh, ne fe fydd yn waweh, a bant a hi wedyn. Allen i daeru am- bell waith fod* e'n clŵed sŵn dyn yn newid i feddwl. Inni'n gorffod cered ffit- ffat fel cathe drw'r tŷ, wath unwaith di- hinith e, inni'n iawn am orie wedyn. Na beth yw consert. Mae'n dachre'n dawei, ac yn gwitho lan i gleimacs fel un o weithe Handel ne Rimskikorkisoff.Na chi neithwr er eoghraifft. Fe fuodd co shirwrw nes odd hi'n bilgen amos. Dim ond hwthi'n nhrwyn nes i, na'i gyd. Fe ddihunodd a'i lyged e'n rowlo fel bwls eis buwch a dyma fe'n dache magneitha a grwgnach, aros dipyn bach i ail gydio, tipyn o rem-rem-rem fel resitaltîf. ac yn y diwedd bosto mas nes odd hi'n randibw rowndabowt. Odd e'n sgegan a bwldagu a dala'i anadl nes odd i wmed e'n ddu blac a'i dafod e mas fel y mraich i. Fe gredes i am fnund fod e'n dachre mynd (YN NHAFODIAITH BRO LLANDYSUL) yn gandeiriog. "Gna rwbeth!" medde Mari, "gna rwb- eth bachan yn lle aros fel delff pwdwr fana." Wydden i ddim beth i neud. Ond er mwyn gneud rhwbeth, fe gidjes yndo fe ac fe'i dales a'i ben i lawr. A wir i chi odd hi'n change i glwred y sŵn ypseid down. Ond allen v ddim i gadw fe'n hir fanny, wath fe ddachreuodd fynd yn ig ag yn golig ag yn ddrifils i gyd. Fe dreion dipyn bach o ddŵr a colsyn o lo yndo fe, mai'n dda at y gwynt medde nhw. Ond dim byd wir w. Ta ni'n rhoi'r Côl Bôrd yn y d\\T, stope fe ddim. Cered nôl a mlân, lan a lawr, miwn a mas, siarad yn synhwyrol ag e, "Wel, wel, bitw bach be sy'n bod, be sy'n bod arnat ti'n grac a dadi bach fel hyn, bwts bach y dadi yn mynd i cici bei nawr, odi'r hen wynt yn poeni crwt bach, rown i halen yn cawl yr hen wynt." Mynd ag e bob cam i blwy Llangywer a nôl. Dim gweül. Treio tôn y botel gan feddwl y byse honno yn shŵr o gâl dylanwad arno fe—ond fyse 'ran man i fi roi dymi i deiger. Ond pwy ddoith mewr. ar y funud ond Jones y Ffeirad. "Nosweth dda," medde fe yn i lais gwasaneth. "Nosweth dda,—be sy'n bod 'ma?" A wir ichi dyma'r babi'n dachre tawelu ar un- waith. A chyn bo Mr. Jones wedi sharad cwpwl o frawddege fe welwn i lyged e'n cau'n dawel bach fel blode llyse cŵn gyda'r nos. A fe gysgodd fel deiar. In- ni'n eglwyswyrs mowr byth oddi ar 'ny —Ysgol Sul a chwbwl.