Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Castiau Beirdd a Gwerin Gan T. HUDSON-WILLIAMS HOFF gan feirdd a rhamantwyr r ym mhob oes chwarae g enwau lie- oedd; ni eill y wenn oddet geiriau nad ydyw yn eu deall fel anian, y mae hithau "yn casáu gwagle." Troes y Sais 'O mihi beate, martine yn All my eye and Betty Martin. Galwai'r morwyr gynt y llong Bellerophon yn Billy Ruffian a'r Titan yn Tight Un. Cydiodd Cymro yn y llamhidydd a gwnaeth Sam Bedyddiwr ohono; esboniwyd Llandanwg fel Llan dan ŵg. Pan oeddwn yn blentyn dynas felan oedd llinos felen i mi a'm cyfoed ion. Yn yr oes honno byddwn yn cysylltu Ffair glungaca a F fair glamai á'r gair glan; dechrau'r môr oedd glan, dech- rau'r gaeaf felly oedd glangaea er y gwyddwn i'r dim beth oedd dydd Calan arno fo v cawn 'glennig' bob blwyddyn gan fy nain. Enw mawr yw Ecclesiastes i blentyn; nid teg felly oedd y ngheryddu am alw Llyfr y Pregehwr yn Ecclustiaid; ond nid myfi oedd yr hogyn a ddywedodd yn y seiat mai o'r Epistol at y Datguddiaid y daeth ei adnod Dywddais wrth rywun mai saint nid seiont oedd enw cywir yr afon. 'Pwy oedd y saint. tybed?' meddai. 'Padarn a Pheris, mae'n siwr ichi.' Gwyddai hog- iau'r dref mai ar gefnau ceffylau y gwelid mountebanks onid oedd gennym felly hawl i'w galw yn fowntibacs. ein gair ni am syrcas? Os y\v gair yn ystyfnig, rhaid ystumio tipyn arno; gwell hynny na'i adael yn ddiystyr llamodd calon Guto'r Odyn pan ganfu mai cae'r mêl oedd Carmel. Haerodd bardd eisteddfodol nad oedd Cricieth onid y cri certh a glybuwyd ar ddiflaniad Cantre'r Gwaelod. Crafodd arall ei ben ar Draeth y Lafan nes y gwelodd mai Traeth yr Oer Lefain' yd oedd enillodd rhywun gryn glod am gael Dolvdd Elain ym môn Dolwyddelan. Ai tybied ei fod yn gwneud cymwynas â ni yr oedd y Sais a wthiodd ei air Druid i enw'r pentref Cymreig Cerrig y Drud- ion ? Nid rhaid ond agor papur newydd i brofi nad yw ei gefnogwyr wedi diflannu o'r tir. Clywais egluro Porthaethwy trwy gyfrwng ston am adeg yr 'aeth wyth' dros y môr i Fôn credaf mai un o wehel- yth y Bardd Cocos, brodor o Borthaeth- wy, a ddyfeisiodd hyn. Gallaf innau daeru mai er cof am Maxim Gorgi y gal- wyd Treorci yr oedd yr enw yno ym- hell cyn geni'r nofelydd enwog pa waeth am hynny? Onid proffwydo yr oedd fy mrodyr yn y De? Ceir porfa fras yn ein hen lawysgrifau. Pan roes Bendigeidfran iawn i Fathol- wch, brenin Iwerddon, 'talwyd ei feirch iddo, tra barhaodd meirch doí, ac oddyna y cyrchwyd ag ef cwmwd arall, ac y tal- wyd ebolion iddo, 'yny fu gwbl iddo ei dâl; ac wrth hynny y doded ar y cwmwd hwn- nw o hynny allan, Tâl Ebolion." (Llyfr Gwyn Rhydderch, t. 23 yn arg. Gwenog- fryn). Yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi rhoddir hanes taith y moch a gafodd Gwydion trwy dwyll yn y Deheudir: "Rhaid yw in gerdded yn brysur," meddai Gwydion 'ni phara yr hud namyn o'r pryd bwygilydd. A'r nos honno y cerddasant hyd yng ngwarthaf Ceredig- ion, y lle a elwir eto o achos hynnv Moch- tref." Enwir hefyd ddwy Fochtref arall, a Mochnant ym Mhowys, a dywedir i Wyd- ion a'i wŷr "wneuthur creu i'r moch ac o'r achos hwnnw doded Creuwrion yn enw ar y dref." (Ll. G., Rh. t. 43). Traethir ysmaldod doniol yn y casgliad Cymru Fu (1862), tud. 23 yn argr. Hughes Wrecsam (? tua 1900). Dyma sylwedd un esboniad o'r enw Dinbych. Yr oedd draig a elwid Byoh yn yr ardal, a .awr oedd y difrod a barai i'r trigolion O'r diwedd lladdwyd hi gan \vr dewr, a phan ddychwelodd, croesawyd ef gan dorf orfoleddus yn bloeddio "Dim Bych."