Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dwylo Gan MONA HUGHES BRYSIAI Elin Griffiths o gwmpas ei llaethdy gan drin y pedyll yn aíros- go a swnllyd. Gwraig yn ei thri degau yd- oedd, ac ôl profiadau, a'r rheini heb tod yn felys i gyd, ar ei hwyneb llwyd. Nid oedd ganddi deulu, ac am hynny llifai holl angerdd ei natur i gyfeiriad ei gŵr: iddo ef y byddai'n byw, ac erddo y llaf- uriai. Er hynny, yn ystod y misoedd di- wethaif, daethai rhyw syniad i'w meddwl nad oedd y serch a'r gwasanaeth dirwg- nach a roddai i'w gŵr yn ddigon bellach i sicrhau dedwyddyd eu bywyd cytûn. Weithiau, sylweddolai nad oedd ei hag- wedd o hyd yn fynegiant cywir o'i theim- ladau cynnes, a bod helyntion ei bywyd beunyddiol yn ei throi'n chwerw ac yn hagr cyn ei phryd. Eithr ar adegau er- aill, teimlai'n ddig tuag at Edwart Griff- iths am na fynnai weld islaw undonedd wyneb eu bywyd, a threiddio i ddyfnder dihysbydd y cariad a gronnai o hyd yn ei ohalon tuiag ato. Deuai ysbeidiaü pan deimlai'n ddiamynedd a chwerw. Pa- ham na welai ei phriod fod y ferch hoen- us osgeiddig a'r dwylo meinion gwyn, a fu unwaith yn eilun ganddo, ynghudd o hyd rywle ym mhersonoliaeth y wraig annaddig ganol oed? Pabam na sylwedd- olai Edwart gyfoeth y rhodd a gynigiai iddo? A pha le yr oedd yn awr? Paham yr oedd cyhyd yn torri'r tipyn gwair i'r anifeiliaid? Aeth at ddrws y cefn a gwaeddodd: "Edwart! B'ie r'ych chi? Mae arnaf eisiau help gyda'r fuddai." Ni chafbdd yr un ateb, a throes yn ôl i'r llaethdy at y pedyll, gan weithio'n ddygn, a ohreu'r un twrw ag o'r blaen, fel petai'n ceisid ei byddajru ei hun, a 'boddi'r meddyliau a'u lled-awgrymai eu hunain iddi. Amaethwr o'i anfodd oedd Edwart Griffiths, a dyheasai ar hyd ei yrfa am ddiwyllianit ac addysg. Cas ganddo fedd- wl ei fod wedi ei lyffetheirio at ei fferm am oes; ni chymerai ddidordeib yn y byd yn ei llwyddiant, ac onibai am ymdrech- ion diflino ei wraig, yn ddiau byddai wedi hen ddarfod arno fel ffermwr. Yn rhyf- edd, ni ddiolohai i Elin am ei llafur; yn hytrach, teimlai'n flin eu bod yn medru cael dau pen llinyn ynghyd o'r herwydd. Pe methai'r fferm, yna byddai yntau'n rhydd i ddilyn ei fympwy. Credai y by- ddai iddo yrfa ddisglair pe cai eá gyfle. Teimlai'n orwyllt weithiau wrth feddwl bod y blynyddoedd ar dreigl, ac yntau'n heneiddio. Er hynny, ni theimlai faich y blvnyddoedd ei hun, ond gwelai'n eg- lur yr argraff a wnâi'r blynyddoedd ar Elin; aethai'n denau, a'i hwyneb yn rhychiog, ac yr oedd y dwylo bychain gwynion a hoffasai gymaint gynt, wedi lledu a mynd yn arw. Ni ellid tafîu'r bai ar Edwart Grifîiths yn llwyr am fod mor hunan-hyderus. Pob tro y codai i siarad mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Ddiwylliadol, byddai'r gwedn- idog a'r ysgolfeistr, a'r aelodau eraill yn canmol ei areithiau i'r cymylau. Credai yntau'n ddidwyll eu bod yn gwneud hynny oherwydd disgeirdeb ei ddoniau. Ni wawriodd arno tod y gweinidog yn ei ganmol er mwyn cadw ei gap yn gywir, gan ei fod yn ei gael yn ŵr mor anodd ei drin. Ni ddaeth i'w feddwl mai rhyw drugarhau a wnâi'r ysgolfeistr wrtho, am iddo sylweddoli mai dyn wedi ei siomi gan fywyd oedd, ac yn yrnbaMu am ryw afael sicr, a hyd yn oed yn hanner gob-