Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tynnu Dant Gan JOAN WILLIAMS DIODDEF, gohirio, ofni, gobeithio. Y maent i gyd yn rhan o'r broses. Ni wn yn iawn pa beth a'm cymhellodd i ddewis y fath destun; hwyrach mai am ei fod wedi dod ,yn nhan ohonof neu yn fwy cywir efallai yn rhan o'm bywyd, yn rhywbeth na allaf fy ^arbed íy hun rhag- ddo, ac na allatf ymysgwyd oddi wrtho, yn rhywbeth y mae'n rhaid i mi ei wneud bob hyn a hyn ar waethaf po,b awydd a dyhead i beidio; hwyrach mai am ei iod yn un o'm casbethau, yn un o'r pethau bach hynny, dibwys i bob pwrpas efallai, y mae'n ffiaidd gennyf amdianynt, íel cymryd ffisig neu lyncu pilsen. Ac eto, y mae'n gysur meddwl nad wyf unig yn hyn o atgasedd. Hyd yn hyn ni chyíartum â'r person a fyn honni iddo cldygymod na chynefino â thynou dant i'r graddau y gall gael unrhyw bleser allan o'r peth, na'i wneud heb ail, ie, a thrydydd ledd- wl! Cawswn fy nghyflwyno, tel petai, i'r broses hon, yn anuniongyrchol, flynydd- oedd lawer cyn dod i wrthdarawiad per- sonol â hi. Efallai mai dyna sy'n cyírif am ddewisiad fy nhestun-i ryw ymwneud â hi gael ei blannu yn fy isymwybod ym more oes, a chael llonydd i gyd-dyfu â mi bron o fabandod. Felly y daethom, mi gredaf, yn anwahanadwy. Yr oeddwTi wedi dysgu dweud, "gaíael fel Sion ltan deintydd" fel y dysgais ddweud yr a, b, c ymhell cyn i'r geiriau ddod i ar- wyddocau dim i mi. Dyna oedd ymad- rodd safonol ardal fy nghartref am aíael mewn rhywbeth yn go dyn, gafael â gal- ael gof, fel y dywedir heddiw. Paham y daeth y gof i ddileu'r deintydd, nis gwn Ni welais erioed mo'r Sion Ifan hwnnw. Yr oedd yn ei fedd flynyddoedd cyn dydd fy ngeni. Ni welais grybwyll o'i enw mewn na llyfr na chyfnod, na hyd yn oed ar garreg fedd. GaMasai fod wedi peidio â bod o ran dim a wyddwn i. Ond y mae gennyf hyd heddiw fy narlun per- sonol byw o'r cawr cyhyrog hwnnw yn fy nyohymyg, na fynnaí i amser na dim arall ei newid na'i ddileu. Ymhen hir a hwyr, fe ddysgais o brofiad ystyr y gymhariaeth yn well, a phrofais fod cad- ernid Sion Ifan fy nirnadaeth plentyn- aidd yn cyfateb i'r dim i'r hyn a deim- lais ac a ddioddefais. Coffa da gennyf am wylio â chwilfryd- edd a chywreinrwydd plentyn ysgol un o'm cydysgolheigion a fedrai ddiwreiddio dannedd wedi dechrau siglo yn eu seil- iau,—y synnu a'r rhyfeddu a wnawn; fy edmygedd ohono, a'i ymffrost yntau yn yr orchest wrth iddo ymgolli fwy fwy yn- ddi; yn wir, un o arwyr bore oes. Er nad ymddiriedais i fy hun erioed i'w farbar- eiddiwch, byddwn wrth fy modd yn ei wylio yn cloddio a chigydda ar eraill. U nithio fy ngho.f, daw llawer o bethau er- aill yn ôl ar adain atgof. Cofiaf mor oier fy ymgais i geisio cuddio pydredd un o'm dannedd â gwlan cotwm rhag "llygaid barcud" deintydd ysgol; Cofìaf am wneud cwt celfi gardd yr Ysgol Sir yn ddihangfa rhag yr un gŵr. Cofiaf am dreulio llawer min nos â darn o edau hir ynghlwm am fôn dant, yn ofni ei roi wrth fwlyn drws a rhoi gwth sydyn i hwnnw. Cofiaf am fynd i noswylio lawer gwaith â phen y llinyn yn rhwym am fy mys fel pe bai i sicrhau, pe digwyddai i mi lyncu'r dant yn fy nghwsg, y byddai i mi allu ei atgyíodi o ddyfnderoedd fy