Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwyddwn nad oedd pob dant a gollwn ond rhagflaenydd rhywbeth gwell. Er- byn heddiw, y mae'n wahanol; nid oes etifeddion, a rhaid bodloni mai: (John Drinkwater, 'Never the heart of spring had trembled so ) Ni chrynodd calon Gwanwyn gwyn erioed Fel ar y diwrnod ym Mharadwys draw Pan aethom ni ein dau ar ysgafn droed I chwilio'r hen gyrfrinach, law yn llaw- I wybod pa ryw las oedd yn y nen, Pa wyrdd yn nail y coed, a pham mae'r sudd Yn brwd ddychlamu at yr haul uwchben, Ac oriau tlysni'n ffoi fel diwedd dydd. Ond nid y deilios newydd yn y llwyn Na dyfnder glesni awyr Mai, na llef Yr adar serchog fry, na'r hiraeth mwyn Am degwch coll a luniodd inni nef, Ond yn ein serch nyni a ddug y rhain A'u troi'n wrthrychau Paradwysaidd cain. (Michael Field, 'And on my Eyes Dark Sleep by Night' ) Tyrd, Gwsg lygatddu, dduwies gudd, Rho im dy freuddwyd gau; O dyro'r mwyniant pêr na rydd Y dydd im i'w fwynhau. Y cusan llosg na feiddiwn ddwyn O fin na roddai ddim, Y fron na thorrai er fy m\vyn, — 0 dyro'r gwynfyd im'. Ni'm dawr ond im gael cysgu'n drwm Dan fendith aelwyd cu; Rho orffwys dro ar wefus hwn A thwyllo'r deffro du! Aberystwyth. MAIR SIYELL JOME^ "Fel yna mae hi, dyna'r iarn, Mynd a'r hen ddaear iesul darn." Dioddef, gohirio, oíni, teimlo chwith- dod, a dau ddiwrnod o fara llaeth! Yd- ynt y maent i gyd yn rhan o'r un broses. DAU GYFIEITHIAD I. II.