Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Geiriadur Árall Gan L. HAYDN LEWIS, Ton Pentre Y MAE i bob peth byw a hywaeth ei hanes neu o leiaf ei dreigl: felly y dywedir wrthym gan bob rhyw wyddor ac ymchwil. Aeth y ffaith yna yn syrff- ed i lawer ond y mae eraill a dyn fêl melys o'r dirgeìwch o hyd. Un o'r sylweddau mwyaf hywaith trwy'r byd ydyw Iaith ac o bob dim y sydd ar wyneb daear un o'r mwyaf diddorol. Utgorn y deall, melodi a mydr ein hysmudiadau, biygawthan a chleber ein bywyd cyffred- in, a bwrn pob rhyw is-ymwybod—eang iawn yw ei rhandir ac annobarthus ei cheulannau. Gwedd ar iaith yw ei geirfa, cytyng- edig ei chylch ynddi ei hun mae'n debig ond mawr ei diddordeb, ac nid v lleiat peth o bwys o'r cwbl a gafwyd o bob astudiaeth wyddonol ddweddar o'r iaith Gymraeg ydyw ansawdd a phosibilrwydd ei gyrfa. Addeíwn hynny, ond yr un pryd y mae gennyf gŵyn neu brotest i'w haddef ar yr holl fater hwn. Gan na feddaf gopi o 'Eiriadur Rhydychen' ar gyfer yr eirfa Saesneg bu raid i mi fod- loni hyd yma ar 'Eiriadur yr Ugeinfed Ganrif' Nuttall. Druan ohonof, ond ar- hoswch; ni wn pa faint o ysbeidiau didd- an ac adeiladol a gefais hyd yn oed yn ei gwmni ef, a'r rheswm union oedd neu yw fod y geiriadur hwn yn eiriadur 'etymol- ogaidd.' Dengys, ar antur go fawr, wreiddyn neu gysylltiadau gwreiddiol mwyafrif mawr yr eirfa anferth sydd yn- ddo. Dyna un o ragoriaetbau cyffredin y Saeson; y mae ganddynt hwy nifer hel- aeth o eiriaduron sy'n cynnwys gwTeidd- eiriau posábl, eithr hyd yn hyn ni feddwn ni'r Cymiy gymaint ag un. Dyma yn ddiau ran o'n tlodi ond y farn gyffredin, fe ymddengys, yw nad yw hyn yn beth i'w ryfeddu ato. Sonnir am rai cyfnod- au yn hanes Ewrop fel cyfnodau meddwl yr 'encyclopaedia.' Ar ryw olwrg bu'r trig- ain mlynedd diwethaf yn engraifft deg o beth digon tebyg yng Nghymru, yng ngwyddor ac ymchwil ei llên a'i hanes yn arbennig iawn. Os addefwn y cwbl gwelwn fod rhai pethau anhygoel fawr wedi eu hennill, ac yn gyntaf oll mae'n ddiau gwyddor a dysg yr iaith a'i hanes a dosbarthiad gwyddonol y cyfnodau a theithi oes ac oes, ond yn sgîl y pethau mawr hyn ddefnyddiau iaith 'newydd a hen' a geirfa fyw. Bellach y mae ym- gais at gael 'geiriadur mawr' cenedlaeth- ol; eisoes fe baratowyd rhannau o eiriad- ur arall ar un o gyfnodau llên y genedl (y 'Gogynferdd'). Y mae hyn oll yn dra arwyddocaol, eithr nid yw'r gwaith ond megis ar ei gychwyn-ac nid oes gennym eto eiriadur cyffredin a rydd i ni dardd- iadau posibl geirfa gyfoethog y Gymraeg. Rhaid cydnabod i ddechrau yr hyn sydd yn obeithiol a phleserus yn y sefyll- fa, fel ag y mae. Y mae i'r disgybl pen- ffordd o Sais ei 'Garadar,' ac i'r Cymro cyffredin ohonom y mae 'Anwyl' o hyd wrth law, ond fel y gŵyr pawb ni cheir yn 'Anwyl' ond cyfystyTon geiriau yng- hyd â rhywogaeth nifer helaeth o'r en- wau, er nad y cyfan ohonynt o bell ffordd, am reswm nad yw yn eglur iawn. O farnu popeth yn deg math ar 'eiriadur- ysgol' ydy,v geiriadur Anwyl, er ei holl werth a'r defnydd aruthrol a wnaed ohono yn y ẁng-mlynedd-ar-hugain neu lai y bu mewn bod. Cyfraniad mawr Bodfan oedd cadw gwerth a phosibil- rwydd 'geiriadur dâ' o hyd yn fyw o flaen