Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

holl lyfrau gwerthfawr dysgedigion di- weddar a chyfoes yr iaith Gymraeg? Y mae'r rheswm yn ddigon amlwg. Yr un yw'r 'maes' (neu'r 'magos'), ond gwell oedd myned i Ffrainc a Gâl, dan gyfar- wyddyd un arall, mwy estron o ychydig bach, am y tro, ac yno groesi'r 'rhyd' (neu'r 'ritu'), a thynnu drosodd i'r Al- maen goediog a'i 'gwydd' (neu'r 'witu'), ac i Rwsia bell a'i rhandir o 'heiddiau' (neu'r 'borosno') ac i Groeg a'i 'Kragos' er mwyn dychwelyd eilwaith at 'graig' a 'bara' Cymru. Bid siwr mae llawer o berygl weithiau mewn amlder perthynas; fe â'r tylwyth yn rhy fawr. Rhaid bod annibyniaeth a cheadigaeth lle byddo iai.th, er pob benthyg a throsiad. Eiithr wedi gweled mawTedd, hynafiaeth a thras yr holl olyniaeth faith, tybed na theimlir rhyw ias o ryfeddod? Nid llin yn mygu (Trefnwyd ar batrwm hen gerdd Saesneg) A glywch-chi leisiau Bethlehem Yn nyfnder nos? Y ceiliog ar fur y ddinas hen a gan yn glir: Christus natus cst! Christus natus est! Ganwyd Cnst! Hwyaid â'u clebran yn y llaca llwyd: Quando? Quando? Pa bryd? Pa bryd? Hitliau'r gigíran groch ar bren: In haec nocte! In haec nocte! Heno'n wir! Gwanllyd gŵyn yr heffrod ar y rhos: UbI? Ubi? Ymhle? Ymhle? Trwy borth y ddinas daw brei yr oen: Bethlem! Bethlem! Bethlem! Bethlem! Be—e—e—eth—lem Y rhain yw lleisiau Bcthlehcm Yn nyfnder nos. Coedpoeth. HUW LLEW WILLIAMS. ym Morgannwg neu'r Rhyl yn unig mo'r Gymraeg a adwaenom, ond lleferydd yr hyn na fu (medd Hubert) erioed yn 'gen- edl', ac eto (medd ef) yn gwlwm o gym- deithasau a roddes i Ewrop, unwaith o Jeiaf, ddau beth-Iaith a Gwareiddiad. Maddeuer y fenter i dir bras arbenig- wyr disglair y dylem bob dydd o'n hoes ddiolch amdanynt. Ni allwn yn wir ar hyn o bryd, fesur hudoliaeth a grym eu llafur hwy, y dynion hynny sydd yn 'dar- ganfod,' chwedl Syr Ifor Williams. Mawr yw eu cymwynasau enfawr. Ond ni roesant hwy, neu yn hytrach efallai ni ddaeth yn amser eto i ni gael y trysor ar- all hwnnw, Geiriadur Newydd ac ynddo helaethrwydd gweddol sicr o 'darddiadau' —y Geiriadur Cymaeg 'Etymologaidd' y carwn i yn fawr, rywbryd, ei weled' a'i ddarllen. LLEISIAU BETHLEHEM