Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trafod Simboliaeth Gan BOBI JONES a T. GLYNNE DAVIES Bubi Jones: Anrhydedd yw cael eich cwmni chwi i draíod Simboliaeth. Chwi yw'r enghraifft aeddfetaf a mwyaf cyt- lawn o'r ysgol yng Nghymru, a diau nid af yn ormod ar gyfeiliorn dan eich ar- weiniad. I fynegu fy safbwynt yn fyr, fe ddyf- ynnaf stori o'r Llyfr Gwyn: "Un bore cododd Peredur. Ar ol mynd allan yr oedd cawod o eira wedi syrthio y noson gynt, hwyad wedi ei lladd ar y llawr, a brân yn pesgi arni. Satodd Peredur a chyffelybodd dduwch y frân a gwynder yr eira a chochter y gwaed i wallt y fenyw a garai fwyaf, a oedd mcr ddu â'r muohudd, a'i chnawd i wynder yr eira, a chochter y gwaed yn yr eira gwyn i'r ddau fan gochion yng ngruddiau'r fen- yw a garai fwyaí." Gweld simbolau yr oedd Feredur. Aeth Cai ato ac aflonyddu amo'n anghwr- tais; a chymerodd Peredur ei wayw a thor- rodd fraich Cai a gwaell ei ysgwydd. Ac aeth ymlaen â'i fyfyrio ar y simbolau. Peth go ddifrifol yw torri braich dyn; ond pethau mwy difrifol oedd y simbolau ym meddwl Peredur,. Ond dyma fy mhwynt i—petawn wedi mynd at Beredur fel gŵr boniheddig a gofyn iddo p'un sy well ganddo, y simibolau hyfryd hynny neu gnawd, gwallt a gwaed y fenyw a garai fwyaf, 'rwy'n weddol sicr beth fu- asai ei ateb ef. Mewn gwirionedd, y mae mwy nag un ffordd o ymateb at fywyd. Gallwn ym- ateb yn uniongyrohol ac yn simbolaidd. Y mae'n debyg mai'r ffordd gyntaf a fy- ddai'n well gan Beredur, a'r ail ffordd gennych chwi. Nid wyf am gweryla â'r un ohonoch. Ond dyma a ddywedaf, gan fod mwy nag un ffordd, swydd llenor sy'n ceisio mynegi bywyd yn iach ac yn gyí- lawn yw cynnwys pob ffordd. T. Glynne Davies :—Yr ydym ni yng Nghymru wedi tagu Simboliaeth, hanfod crefydd hyd at ddechrau'r ganrif yma. Collasom ers hynny y ddawn i feddwl ac i fyw yn simbolaidd. Corlannu'r bardd efo'r simbol fu'r effaith, a dyna, ynghyd â chynildeb, pam yr ymddengys llawer o'n canu diweddar yn dywyll ac yn am- wys. Cenfydd bardd wrth blymio i'w ddytn- deroedd ei hun mai un o ryíeddodau byw- yd yw ei allu i ffurfio patrymau. Caniyn- iad naturiol hyn yw creu simbolau new- ydd ar bwys profiad unigol, simbolau nad ces a wnelont â rhai ail law megis "oen," "tân" ac "eira." Dyma ffordd o edrych ar fywyd yn hyt- rach na dim arall. Maddeuer imi am ddy- fynnu un o'm cerddi fy hunan i egluro pwynt. Cân yw am farw merch mewn llofft yng ngŵydd ei chariadfab: O'r tu hwnt i'r sêr hefyd, Ac o ben draw byw llygad Y llanc ger gwely'r rhwnc, O'i galon ddirgel Ac o blaster piliedig y llofft Daw'r cynnwrf fel dur. Cyfyd y llwch gyda'r haul Ben bore; Cwlwm o wifrau yw serch. Ac ar ruddiau'r un glaf Chwery cysgod y gwyfyn drwy nos.