Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yng Ngolau'r Fflam BARDDONIAETH UGAIN O GERDDI, gan T. H. Parry Williams. Gwasg Aberystwyth. 6/ Ar gyfer Eisteddfod Bangor 1915 ysgrifen- nodd Parry-Williams y bryddest 'Y Ddinas', ac i ninnau heddiw sy'n ei hail-ddarllen, ei thebygrwydd i bryddestau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, i waith Islwyn a Golyddan yn arbennig, a ymddengys yn fwyaf tarawiadol. Y mae'n bryddest eithaf nodedig, eithr trewir ni gan y dilfyg nerth yn y mydr, a'r rhethreg yn null cân benrhydd "y bardd newydd" — Beth oedd gwarth Ond rhagrith daear? Beth oedd sanctaidd serch Ond clôg dros ddiniweidrwydd dyn? A moes?— Mwgwd ar lygaid pleser Sylwn ar yr aml ystrydebau fel "plasau celf," "uffern chwant," "daearol fedd," a "dwyfol chwant Am ryddid enaid ac ehangder maith," a hefyd ar y gor-haniaethu gwael: Ym mhangfeydd ei nwyd Eiddigus credai mai nid cymrawd llwfr Fu'n torri drws i ryddid iddo'i hun, A bwlch i anfarwoldeb yn nyfnderau'r dwfr. Rhag tybio ohonoch fy mod yn chwilio am dyllau, dyfynnaf ddarn mwy awenyddol o'r bryddest, ac erys llawer o ddarnau eraill sy'n wych odiaeth i'n chwaeth cyfoes o hyd: 0 fyrddiwn o simneiau cyfyd mwg Eto'n gymylau gylch ei hannedd hi, I ddisgyn eilwaith yn gawodydd mân O huddygl anwel drwy'r awyrgylch mall- Anwel, nes glynu'n chwys wynebau'r llu A duo çroen y pererinion sydd Yn marw heb farw ac yn byw heb fyw, A syched am fwynhad yn cracio'u min, A'u hanadl yn byrhau ym mrys ei rhawd. 4 Ond, fel y dywedais, hen- ffasiynrwydd y bryddest sy'n amlwg i ni. Nid dyna'n sicr a oedd amlycaf i'r eneidiau claear a ymgasglodd ym Mangor y flwyddyn honno. Wele bytiau o feirniadaeth Eifion Wyn 'Cymer yn rhy hyf ar ei fesur droion; dywed bethau trwsgl yma ac acw; ac wele rai o'i eiriau annewisol:- hers, mosiwn, clap-trap, dihitio, sgwrsio, cracio. Cynwysa'r caniad cyntaf feddyliau chwerw ac iaith wrthyfelus Caniad gwrth- unach fyth yw'r nesaf dan y penawd Pleser. Hynt 'hudoles y cwterydd' ddisgrifìr yn hwn: Sugnai hi I graidd ei henaid feddwdod y nos Bleserus: drachtiai rin y gwynfyd oedd Ym mhorthi nwyd aIlnirnad- Beth oedd ofn y cnawd I ysbryd ar ei adain? Beth oedd poen I galon feddw, a thrybini byd I gof a borthwyd ar y lotus-chwant? Ymhellach Gwelwyd hi Yn gwrando miwsig maswedd-ac heb wrid Yn ymhyfrydu mewn anlladrwydd ffraeth Cerddi penchwiban a hyodledd bas Ffwlbri'r digrifddyn, ac heb deimlo pang Cywilydd morwyn. Y mae'r bardd fel pe'n ymhyfrydu mewn pethau mall — 'y parddu ar wyneb ac ar foes.' Ac unwaith dwg enw'r Dihalog i gyswllt an- nheilwng a dibarch: Ni welodd hi y boreu hwnnw wên Atgofus yr hudoles wrth y drws, Yn dychwel i'w chynefin rhag y dydd;